Run Wales

Rhaglen gan Athletau Cymru yw Rhedeg Cymru sydd wedi ei datblygu i roi cyfleoedd rhedeg difyr, cyfeillgar, cefnogol a chynhwysol i bawb yng Nghymru

I ni, mae bob ymdrech yn cyfrif ac nid oes yr un lonc yn rhy fach – Rydym ni yma i ddathlu pobl a grwpiau sy’n rhedeg, loncian a cherdded eu ffordd i fywyd mwy bywiog. Felly waeth pa oed, lefel ffitrwydd, dyhead, cefndir na lleoliad, gall pawb fod yn rhan o Rhedeg Cymru.

Os hoffech chi roi cynnig ar redeg, rydym ni yma i’ch helpu chi bob cam o’r ffordd ac yn croesawu pawb i fod yn rhan o’r gymuned redeg yng Nghymru