Run Wales

Ydych chi wrth eich bodd yn rhedeg? Eisiau annog mwy o’ch ffrindiau, aelodau o’ch teulu neu gydweithwyr i redeg gyda chi? Hoffech chi gychwyn eich grŵp rhedeg cymdeithasol eich hun?

Os mai ydw/oes ydi’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, mae bod yn arweinydd rhedeg a ffitrwydd cymwysedig yn berffaith ar eich cyfer chi. Fel arweinydd byddwch yn cael yswiriant a bydd gennych chi’r sgiliau ychwanegol i arwain sesiynau ffitrwydd sy’n ddifyr a chyda ffocws pendant wrth eich pwysau.

Bydd y cwrs yn eich galluogi chi (fel arweinydd) i gynnal sesiynau difyr a diogel i grwpiau o wahanol allu a rhoi cyngor a chefnogaeth i redwyr newydd, yn ogystal â datblygu llwybrau hyfforddiant i’r rhai sydd eisiau gwella. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddeall a goresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl rhag rhedeg a ffyrdd o ddenu’r rhai nad yw clwb rhedeg, yn draddodiadol, yn apelio atynt.

Bydd modd i chi hefyd gofrestru eich grŵp rhedeg gyda Rhedeg Cymru yma.

Manylion y cwrs:

  • Parhad – 1 diwrnod (9am – 5pm fel arfer)
  • Pris – Cysylltiedig ag AC £110, Dim yn gysylltiedig ag AC £140
  • Oed lleiaf i gael mynychu – 18 oed

I gael mwy o fanylion a dyddiadau’r cwrs ewch i wefan Athletau Cymru