Run Wales

Rhedeg

Rhedeg
Rhedeg ymlaen
Problemau yn ymdoddi tu ôl.
Un cam o flaen y llall
Pwysau’r byd yn diflannu mewn fflach.
Ymlaen ac ymlaen
Jyst fi â’r gwynt
Neb o gwmpas i greu helynt.
Curiad calon, hergwd gwaed,
Gweithrediad cyhyrau, taro traed.
Milltiroedd o flaen,
Milltiroedd tu ôl
Pellter yn gwahanu y person â’r rôl.
Y rôl fel mam,
Fel gwraig, fel ffrind,
I gyd yn diflannu wrth i fi mynd a mynd.

A dyma fi
Ar diwedd y daith-
Yn chwysu,
Yn pendro,
Fy meddwl yn wag.
Yn barod nawr i wynebu’r byd.
Dim byd i’m stopio-
Dwi yma o hyd!

Dod o hyd i fi @mehubbyandkids

Alifetimeofdiy.wordpress.co.uk