Run Wales

And the winner is….

Grŵp rhedeg cymdeithasol ardal Llandrindod, Just Move, oedd enillwyr cyntaf Grŵp Rhedeg Cymdeithasol y Flwyddyn yn seremoni Wobrwyo Athletau Cymru neithiwr.Sefydlwyd Just Move ym mis Medi 2015 gyda chefnogaeth Rhedeg Cymru fel grŵp Cerdded i Redeg, gan helpu menywod Llandrindod a’r cyffiniau i gymryd y cam cyntaf tuag at feithrin sgiliau rhedeg.

Ar y dechrau, roedd y menywod yn cael cymorth gan 8 arweinydd lleol Rhedeg a Ffitrwydd, ond erbyn hyn maent wedi uwchsgilio 8 arweinydd ychwanegol i gefnogi’r nifer cynyddol sy’n cymryd rhan. Mae Just Move yn dilyn rhaglen 10 wythnos sy’n cefnogi menywod i ddatblygu eu hyder a’u ffitrwydd gyda’r nod o redeg 5k ar ddiwedd y cyfnod. Ar ôl cwblhau’r rhaglen 10 wythnos, bydd y menywod wedyn yn mynd ymlaen i gefnogi’r menywod nesaf a fydd yn cychwyn ar y siwrnai 10 wythnos.

“Erbyn hyn mae gennym ni 4 grŵp sy’n amrywio o’r grŵp Cerdded i Redeg i redwyr canolradd sy’n mynd ymlaen i roi cynnig ar bellterau llawer mwy fel Hanner Marathon. Bod yn rhan o’r grŵp Cerdded i Redeg oedd profiad cyntaf rhai o’r menywod hynny o redeg.” Cath Fitzgerald Arweinydd  Just Move

Prif nod Just Move yw gwneud cyfraniad gwirioneddol drwy newid ymddygiad menywod yr ardal; eu hannog i fod yn heini a chynnal y lefel honno o weithgaredd ar gyfer y dyfodol.

Erbyn hyn mae 136 o fenywod wedi cofrestru i redeg gyda Just Move yn Llandrindod sydd allan yn rhedeg, boed glaw neu hindda, bob nos Lun yng nghanolbarth Cymru.

Llongyfarchiadau mawr Just Move.

Os byddech chi’n hoffi ymuno â chriw Just Move, mae manylion i’w gweld yma.

Eisiau ymuno â grŵp rhedeg cymdeithasol yn eich ardal leol? Cliciwch yma.

Rhedeg gyda grŵp Rhedeg Cymdeithasol a ddim wedi cofrestru â Rhedeg Cymru? Cofrestrwch yma.