Run Wales

Gwobrau Rhedeg Cymru yn ôl ar gyfer 2017

Yn dilyn llwyddiant Gwobrau Cenedlaethol Athletau Cymru 2016, ble ennillodd Just Move o Landrindod ‘grŵp rhedeg cymdeithasol y flwyddyn’, rydym yn falch o gyhoeddi fod y gwobrau’n ôl eleni.

Ynghyd a dychweliad Grŵp Rhedeg Cymdeithasol y Flwyddyn, mae categori ychwanegol wedi ei gyhoeddi, sef ‘Arweinydd Rhedeg y flwyddyn’, a dyma gyfle euraidd y rhaglen i ddathlu twf a llwyddiannau rhedeg cymdeithasol yng Nghymru.

Fe ddatblygwyd Rhaglen Rhedeg Cymru gan Athletau Cymru i ‘ysbrydoli, annog a chefnogi pob oedolyn yng Nghymru i redeg’. Rydym yn dathlu pob ymdrech a waned gan unigolion a grwpiau sy’n rhedeg, loncian a cherdded eu ffordd i fywyd mwy egnïol. A pha well ffordd i ddathlu’r llwyddiannau hynny na gwobrwyo grwpiau ac arweinyddion am eu holl ymdrechion?

Felly, os ydych yn meddwl bod eich grŵp chi neu un o’ch arweinyddion yn haeddu cydnabyddiaeth eleni, dywedwch wrthym!

Dyma sut i wneud enwebiad!

Grŵp y Flwyddyn

Gellir enwebiadau yn y categori hwn ddod o unrhyw grwp rhedeg Cymdeithasol/hamddenol sy’n ddi-gyswllt ag Athletau Cymru

Efallai y bydd y wobr yn rhoi cydnabyddiaeth i:

  • Grwpiau sy’n ymgysylltu ag ystod eang o gyfranogwyr yn eu cymuned.
  • Grwpiau sydd wedi gweithio i ymgysylltu a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Grwpiau sydd wedi rhoi cyfle i’w haelodau elwa o hyfforddiant penodol, fel; Arweinyddiaeth mewn Rhedeg ar gyfer Ffitrwydd (LIRF), Hyfforddwr Rhedeg ar gyfer Ffitrwydd (CIRF), Cymorth Cyntaf neu unrhyw hyfforddiant perthnasol arall.

Arweinydd Rhedeg Cymru

Gellir enwebu yn y categori hwn ddod o unrhyw arweinydd Rhedeg cymwysedig sydd wedi ymgymryd â’r cymhwyster Arweinyddiaeth Rhedeg ar gyfer Ffitrwydd (LIRF) gyda DBS

Efallai y bydd y wobr yn rhoi cydnabyddiaeth i:

I Arweinydd Rhedeg sy’n ymgysylltu ag ystod eang o gyfranogwyr yn eu cymuned; eu cefnogi, cymell a hwyluso i gerdded, loncian, a rhedeg mewn amgylchedd diogel.

Mae’r arweinydd wedi gweithio i ymgysylltu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Sut i wneud cais: http://welshathletics.org/clubs/welsh-athletics-awards-2017.aspx