Run Wales

Gwobrau Rhedeg

Rydym wedi cael ein henwebu!

Eleni, nodir y flwyddyn gyntaf i Rhedeg Cymru gael ei enwebu ar gyfer gwobr, ac yn enwedig gwobr genedlaethol- sy’n fwy cyffroes fyth.  Daeth yr enwebiad gan un o’n Pencampwyr Rhedeg, a benderfynodd ein bod ni angen brolio bach mwy am y gwaith yr ydym yn ei wneud. Diolch Lauren!

Fel y gwyddoch eisoes, Rhedeg Cymru yw rhaglen redeg gymdeithasol Athletau Cymru sy’n ceisio annog y genedl i redeg. Mae’r rhaglen hon wedi ei datblygu i ‘ysbrydoli, annog a chefnogi bob oedolyn yng Nghymru i redeg’ – a rhedeg yn amlach.

Mae rhedeg fel gweithgaredd cymdeithasol yn mynd trwy gyfnod o dwf digynsail ledled Cymru a’r DU ar hyn o bryd. Ers 2009 mae’r cynnydd yn nifer sy’n rhedeg yng Nghymru wedi codi o 6.9%  i 16%2016 (yn ôl yr Arolwg Oedolion Actif Chwaraeon Cymru), ac nid yn unig oedolion sy’n cymryd rhan. Mae rhedeg / loncian wedi’i rhestru fel prif weithgaredd ymysg yr ifanc yn ogystal. Yn 2015 nododd, ar gyfartaledd 54.86% o bobl ifanc eu bod yn ymgymryd â rhedeg fel gweithgaredd y tu allan i’r ysgol. Yn fwy, daeth y canlyniadau i’r casgliad bod merched (57.56%) yn rhedeg fwy na dynion (52.27%) yn y cyd-destun hwn.

Ers i Rhedeg Cymru gael ei sefydlu nôl yn 2015 mae gennym lawer i’w ddathlu!

  • Mae dros 80 o grwpiau rhedeg cymdeithasol wedi cofrestru ar ein platfform
  • Rydym wedi cefnogi 164 o Arweinwyr Rhedeg gyda’r cymhwyster LIRF
  • Ariannwyd 14 parkrun newydd
  • Mae 25% o grwpiau cofrestredig yn grwpiau benywaidd yn unig, gyda hyd at 60% o’n haelodau’n ferched.
  • Mae 15 Pencampwr Rhedeg wedi ei recriwtio, ac yn hyrwyddo’r rhaglen yn eu cymunedau (a rhai ohonynt yn flogwyr yn ogystal wrth gwrs!)
  • Rydym wedi creu ‘Pecyn cymorth ar sut i sefydlu grŵp rhedeg cymdeithasol’- sydd ar gael yma
  • Rydym wedi creu ‘Canllaw i redeg yn y gweithle’ sy’n cynnwys sesiwn blasu AM DDIM fel bod cyflogwyr yn gallu ennyn diddordeb staff a gweld y buddion o sefydlu cyfleoedd rhedeg yn y gweithle – mwy o wybodaeth ar gael yma
  • Gyda chymuned o dros 6000 o redwyr wedi cofrestru

a llawer mwy ….

Felly dyna ni, ychydig am ein llwyddiannau hyd yn hyn.

Sydd, y dod a ni’n ôl at fater y WOBR!! Rydym wedi cael ein henwebu ar gyfer y ‘Gymuned Ar-lein ora’r Flwyddyn’, sy’n wych, gan ein bod yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod cynnig cefnogaeth ar lein ac ar lawr gwlad i’n holl grwpiau, aelodau a’n cymunedau.  Rydym yn frwd dros redeg cymdeithasol a’r buddion sy’n nghlwm a’r gweithgarwch, ac yn eiddgar i weld pawb yng Nghymru’n elwa o fod yn fwy egnïol.

Felly, os gall y wobr hon godi proffil Rhedeg Cymru, rhoi’r cyfle i ni gyrraedd mwy o bobl a bod y  man cyntaf ble ddaw pobl i wybod mwy am redeg cymdeithasol yng Nghymru, yna byddwn ni’n wirioneddol hapus!

 

Wedi’ch ysbrydoli? Dilynwch y ddolen hon i gyflwyno’ch pleidlais … http://therunningawards.com/vote/205/208#vote

 

Diolch