Run Wales

Llwyddiant parkrun newydd i Gymru

Mae ‘na ddwy sir yng Nghymru wedi llwyddo i sefydlu eu sesiynau parkrun llwyddiannus eu hunain yn ddiweddar. Croesawodd sir Benfro ei 2il parkrun yn Hwlffordd a sefydlwyd parkrun Casnewydd fel parkrun cyntaf Powys.

Mae’r ddau parkrun newydd wedi eu hariannu gan Raglen Redeg Gymdeithasol Rhedeg Cymru, sydd wedi derbyn cyllid gan Chwaraeon Cymru i weithio mewn partneriaeth â parkrun er mwyn cynyddu cyfleoedd i bobl gymryd rhan. Mae’r bartneriaeth wedi bod yn llwyddiant ysgubol a chafodd 5 parkrun ei ariannu gan y rhaglen yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Caiff parkrun Hwlffordd ei arwain gan y Cyfarwyddwr Digwyddiadau Laurence Worth, sydd wedi bod yn awyddus i ddod â parkrun i Hwlffordd ers peth amser. Roedd wrth ei fodd yn cael croesawu 155 o redwyr i redeg o gwmpas cwrs rasio Hwlffordd ar fore gwlyb a gwyntog ym mis Medi. Roedd sawl un yn cytuno bod y cwrs yn un difyr, gydag ambell i ddarn anos. Mae llawer o bobl wedi bod yn cymryd rhan, gyda dros gant ar gyfartaledd bob wythnos ac mae’r tîm gwirfoddoli craidd yn croesi eu bysedd am ddydd Sadwrn sych cyn bo hir!

 

Helen Owen ydy Cyfarwyddwr Digwyddiadau parkrun Casnewydd, sydd wedi ei leoli ym Mhont Parc Dolerw, ac fe’i rhedir ar gyfuniad o wahanol fathau o lwybrau. Gwelwyd 206 o redwyr yn y digwyddiad cyntaf ym mis Hydref, ac maent hwythau wedi cael niferoedd ardderchog bob wythnos ers hynny. Meddai Helen “Rydyn ni ar wythnos 6 o parkrun Casnewydd ac allai pethau ddim bod yn mynd yn well! Mae’r gefnogaeth wedi bod yn rhagorol ac rydyn ni wedi cael gymaint o adborth cadarnhaol gan y gymuned leol a thwristiaid parkrun sy’n dod i’r ardal. Allwn i ddim dychmygu bore Sadyrnau heb parkrun erbyn hyn”.

Roedd 234 o redwyr, rhwng y ddau leoliad, nad oeddent wedi rhedeg parkrun o’r blaen cyn cael y cyfle yma. Mae hwn yn gyflawniad gwych sy’n dangos ysbryd gwirioneddol rhedeg cymunedol. Rydyn ni eisiau dymuno pob llwyddiant i’r ddau parkrun ar gyfer y dyfodol.

 

Os hoffech chi gychwyn eich parkrun eich hun, cliciwch yma.