Run Wales

Newid bywydau yng Nghwm Llynfi

Ar ddechrau’r flwyddyn fe wnaeth Rhedeg Cymru ennill grant Newid er Gwell i weithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn datblygu grŵp Cerdded i Redeg yng Nghwm Llyfni.

Menywod Cwm Llyfni oedd y grŵp targed ar y cychwyn, ond ‘doedd hynny ddim yn ddigon i rwystro un dyn rhag ymuno â’r grŵp gwych hwn o fenywod er mwyn cwblhau’r her.

Felly yn gynnar ym mis Gorffennaf, daeth grŵp nerfus iawn o bobl at ei gilydd yn y Ganolfan Chwaraeon ym Maesteg i gychwyn ar eu taith o gerdded i redeg 5k mewn 12 wythnos – rhywbeth yr oedd bob un ohonynt yn ei weld allan o’u cyrraedd.

Yr arweinydd i’w hysgogi oedd James Thomas o grŵp Rhedeg yr Hen Blwyf (Grŵp rhedeg cymdeithasol Maesteg) ac Ysgogydd Rhedeg Cymru. Roedd y grŵp yn cyfarfod 3 gwaith yr wythnos er mwyn cyrraedd eu targed, a hynny weithiau yn y glaw trymaf y gallwch ei ddychmygu!

Drwy gydol y rhaglen 12 wythnos, roedd teimlad o ysgogiad a phenderfyniad. Roedd pob rhedwr yn cefnogi ac yn annog ei gilydd, yn enwedig pan oedd y rhedeg yn galed ac roedd hi’n anodd dal i fynd. Roedd y grŵp Facebook a sefydlwyd ar eu cyfer yn llawn ysbrydoliaeth a chefnogaeth, gyda phobl yn rhannu eu bod yn mynd i redeg eu hunain, eraill yn ei ddefnyddio i ofyn am gwmni i redeg, ac roedd rhai mor ymroddedig nes eu bod yn gwneud rhai o’u sesiynau ar eu gwyliau.

Un bore Sadwrn ar ddiwedd y 12 wythnos daeth pawb at ei gilydd yn parkrun Maesteg ar gyfer y ‘diwrnod graddio’, sef diwrnod y 5k. Cwblhaodd 24 o’r 35 cychwynnol y rhaglen ac, fel y gwelwch o’r llun, roedd pob un yn hynod falch o’i gyflawniad – gwnaethant yn siŵr eu bod yn cael crys-t i ddangos hynny ar ôl croesi’r llinell!

Meddai James Thomas am y grŵp;

“Maen nhw’n grŵp anhygoel sydd wedi dod mor bell mewn amser byr ac rwy’n falch ofnadwy ohonyn nhw i gyd!”

Ers i’r prosiect gael ei gwblhau, mae’r aelodau wedi mynd yn eu blaenau i redeg gyda grŵp rhedeg cymdeithasol Yr Hen Blwyf ym Maesteg. Mae ganddynt grŵp pontio sy’n berffaith ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau rhaglen 5k. Roedd y prosiect hwn hefyd yn cefnogi menywod i ennill sgiliau ar gwrs Arweinyddiaeth mewn Ffitrwydd Rhedeg er mwyn sicrhau cynaladwyedd y cyfleoedd rhedeg sy’n cael eu cynnig yn yr ardal.

Meddai Sioned Jones, Rheolwr Rhaglen Rhedeg Cymru;

“Mae’r prosiect yma wedi dangos y medrwn ni, efo’r cyfle iawn a’r gefnogaeth berthnasol, annog cymunedau ym mhob rhan o Gymru i redeg. Gall arwain at gyfeillgarwch a hwyl, ac mae bod yn actif efo grŵp cefnogol o unigolion o’r un anian yn gwneud y cyfan ‘chydig yn haws. Mae Rhedeg Cymru’n rhaglen sy’n awyddus i gefnogi prosiectau eraill fel hyn er mwyn sicrhau bod cyfleoedd cynaliadwy, diogel a chefnogol ar gael i bawb.”

 

Llwyddiant arall y prosiect hwn oedd creu Llwybrau Rhedeg Spirit of Llyfni. Bu Rhedeg Cymru’n gweithio’n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu cyfres o lwybrau 1k, 3k a 5k wedi eu marcio yn yr ardal o gwmpas llwybrau coetir a hen chwarel Twmpath Mawr. Mae’r llwybrau hefyd yn dilyn llwybr beicio Sustrans ac yn ei agor i bawb. Bydd y llwybrau yma’n cael eu hagor yn swyddogol ym mis Ionawr 2018 lle bydd tri phanel yn cael eu gosod ar gychwyn y llwybrau a fydd yn cynnwys gwybodaeth ar hyd a her y llwybrau a pha mor hir y dylai ei gymryd i’w cwblhau. Y nod yw ei gwneud yn hawdd i bobl gerdded, loncian neu redeg i ffordd fwy actif o fyw a gwneud hynny mewn amgylchedd diogel.   Meddai Geminie Drinkwater o Gyfoeth Naturiol Cymru am y llwybrau:

“Defnyddio’r amgylchedd fel catalydd ar gyfer gwell lles a Chymru iachach, hapusach yw un o’n hamcanion allweddol yng Nghyfoeth Naturiol Cymru – amcan sy’n cael ei roi ar waith drwy’r prosiect rhedeg yma a drwy ddatblygiad y llwybrau rhedeg ar safle Coetir Spirit of Llyfni ym Maesteg. Bydd y tri llwybr gydag arwyddbyst yn rhoi cyfle perffaith i bobl leol a phobl o nad ydynt yn byw yn yr ardal leol fwynhau rhedeg yng nghefn gwlad ar stepen eu drws, gan fwynhau’r awyr iach a’r golygfeydd hyfryd o Gwm Llyfni Uchaf ar y ffordd!”

 

Ni fyddai’r cyfle hwn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth James Thomas, cynllun grant Newid er Gwell, Cyfoeth Naturiol Cymru ac aelodau’r grŵp, eu gwaith caled a’u penderfyniad i gwblhau’r her y mae cerdded i 5k yn ei chynnig i’r rhai sy’n dechrau rhedeg. Mae hwn wedi bod yn brosiect gwirioneddol gymunedol ac yn gyflawniad gwych sydd wedi newid bywydau’r rhai sy’n cymryd rhan.

Da iawn pawb!