Run Wales

Pam fod Rhedeg yn wych ar gyfer eich Iechyd Meddwl

A hithau yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, cawsom sgwrs gydag elusen Mind, nid yn unig ynglŷn â’r ffaith bod rhedeg yn gwneud lles sylweddol i’ch iechyd meddwl, ond i drafod manteision cymdeithasol ac emosiynol rhoi un droed o flaen y llall hefyd.

Manteision Iechyd Meddwl cysylltiedig ag ymarfer corff

Eich gwneud yn hapusach a lleihau pryder. Pan fyddwch yn gwneud ymarfer corff, mae cemegau yn eich ymennydd yn newid am fod endorffinau’n n cael eu rhyddhau (hormonau sy’n gwneud ichi deimlo’n dda), a all dawelu pryder a chodi eich calon.

Lleihau straen. Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo llai o straen a thensiwn wrth i’ch corff allu rheoli lefelau cortisol yn well.

Meddwl yn fwy clir. Mae rhai pobl yn teimlo bod ymarfer corff yn helpu i dawelu’r llif o feddyliau diddiwedd. Wrth i’ch corff flino, mae eich meddwl yn blino, gan eich gadael yn fwy digynnwrf a’ch meddwl yn fwy clir.

Teimlo’n ddigynnwrf. Gall rhoi’r amser i wneud ymarfer corff ynddo’i hun roi cyfle i chi feddwl am bethau a helpu i dawelu eich meddwl.

Mwy o hunan barch. Pan fyddwch yn dechrau teimlo’n fwy ffit a’ch corff yn teimlo’n well, gall fod yn hwb enfawr i’ch hunan-barch. Gall yr ymdeimlad o gyflawniad a geir o ddysgu sgiliau newydd a chyrraedd targedau hefyd wella eich agwedd tuag atoch chi eich hun a chodi eich calon. Mae gwell hunan-barch hefyd yn cael effaith amddiffynnol sy’n golygu eich bod yn fwy bodlon gyda’ch bywyd ac yn llai tebygol o deimlo straen.

Llai o berygl o iselder. Mae tystiolaeth dda bod dynion a menywod mwy actif, o bob oed, yn llai tueddol o ddioddef o iselder. Yn wir, mae un astudiaeth wedi canfod bod mynd o wneud dim ymarfer corff i wneud ymarfer corff o leiaf dair gwaith yr wythnos yn lleihau eich perygl o iselder o bron i 20%.

Manteision Cymdeithasol ac emosiynol

Gwneud ffrindiau ac ymwneud â phobl. Mae bod yng nghwmni eraill yn dda i’n hiechyd meddwl ac i’n rhwydweithiau cymdeithasol – ac mae modd cynyddu manteision ymarfer corff i’r eithaf drwy wneud ymarfer corff yng nghwmni eraill. Mae’n ddigon posibl y byddwch yn gweld y manteision cymdeithasol, yr un mor bwysig â’r manteision corfforol.

Cael hwyl. Mae llawer ohonom yn mwynhau bod yn actif am ei fod yn ddifyr. Dengys ymchwil bod cysylltiad rhwng yr hyn yr ydym ni’n mwynhau ei wneud a gwelliannau i’n lles cyffredinol. Rydych chi hefyd yn fwy tebygol o ddal ati i redeg os ydych chi’n mwynhau eich hun.

Herio stigma a gwahaniaethu. Mae rhai pobl yn teimlo bod ymuno â rhaglen chwaraeon h.y. Couch to 5K yn helpu i leihau’r stigma cysylltiedig â’u problem iechyd meddwl. Gall bod yn rhan o brosiectau lleol gyda phobl eraill sy’n rhannu diddordebau cyffredin fod yn ffordd ardderchog o chwalu rhwystrau a herio gwahaniaethu.

‘Dydyn ni ddim yn honni bod rhedeg yn hawdd, ond mae’r manteision yn amlwg ac yn anodd iawn i’w hanwybyddu.

Rhannwch eich profiad o redeg gyda ni a’r manteision i’ch iechyd – cysylltwch ar Twitter, Facebook ac Instagram. Beth am ei siapio hi, gyda’n gilydd! #rwynrhedeg