Run Wales

Rhedwch dros Mind yn Hanner Marathon Caerdydd eleni

Ni yw Mind, yr elusen iechyd meddwl.

Ni wnawn roi’r gorau iddi nes bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael cymorth a pharch. Rydym yn rhoi cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl. Rydym yn ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth.

Elusen ydym ni ac ni allwn barhau â’n gwaith heb eich help chi. Byddem yn falch o gael eich cefnogaeth drwy gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd y mis Hydref hwn er mwyn ein helpu i godi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol.

P’un a ydych yn rhedwr profiadol neu’n rhedeg am y tro cyntaf, bydd Mind yno gyda chi bob cam o’r ffordd. Rydym yn cynnig pecyn cymorth gwych i’n holl redwyr.
Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod eich profiad yn Hanner Marathon Caerdydd yn un na fyddwch byth yn ei anghofio.
Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn ymuno â’n tîm:

• llawer o gyngor ar hyfforddi a chodi arian
• diweddariadau ar ffurf e-gylchlythyr rheolaidd
• Fest rhedeg Mind gyda’ch enw wedi’i brintio arni
• rheolwr prosiect ymroddgar a phrofiadol i roi cymorth a chyngor

Ymunwch â’n tîm!
Mae dwy ffordd y gallwch ymuno â thîm Mind:

1. Lle Elusen Mind: Bob blwyddyn mae gan Mind nifer o leoedd wedi’u gwarantu yn y digwyddiad ac os hoffech redeg ar un o’r rhain gofynnwn i chi dalu ffi gofrestru o £20 a chodi o leiaf £250 o arian nawdd. Gallwch gofrestru ar gyfer eich lle drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

2. Rhedwyr â lleoedd eu hunain: Os ydych wedi llwyddo i gael lle eich hunan yn uniongyrchol trwy drefnwyr y digwyddiad, byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â’n tîm. Nid oes lleiafswm o arian i’w godi, rydym ond yn gofyn eich bod yn codi cymaint ag y gallwch a byddwch yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen arnoch. Ymunwch â’r tîm am ddim drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.