Run Wales

Ydych chi eisiau her newydd? Ymunwch â #teambreconcarreg

15.01.2016

Fis Ionawr eleni, rydyn ni wedi ymuno â Brecon Carreg i geisio ysbrydoli ac ysgogi pob un ohonoch chi i redeg.

Rydyn ni’n gwahodd 20 o redwyr i ymuno â #TeamBreconCarreg

Drwy ymuno â’n tîm ni byddwch yn cael mynediad am ddim i nifer o ddigwyddiadau rhedeg gwahanol ledled Cymru, bag llawn nwyddau a chyngor gan ein tîm. Yn y pen draw byddwch chi a’ch ffrindiau yn dod yn rhan o rwydwaith o 20 o redwyr. Byddwn ni gyda chi bob cam o’r daith, ac efallai y bydd ambell syrpréis ychwanegol ar hyd y ffordd.

Felly, i gael cyfle i fod yn rhan o #TeamBreconCarreg, rhowch eich manylion chi a’ch cyfaill rhedeg (gan ei bod yn fwy o hwyl gyda ffrind) yma http://goo.gl/FKjgbW, ac eglurwch pam rydych chi eisiau ymuno a rhoi ychydig o hanes eich taith yn y byd rhedeg.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich ceisiadau yw dydd Gwener 22 Ionawr, a byddwn yn rhoi gwybod i’r unigolion buddugol erbyn 14 Chwefror.

Pob lwc!

Mae modd gweld y Telerau a’r Amodau yma.