Run Wales

Dyma fi …

Shwmae, fy enw i yw Gareth ac mae rhaid i fi gyfadde’ rhywbeth. Rwy’n rhedwr!

Ie, dyna fe, dwi wedi dweud y geiriau a chyfadde’ fy mod yn rhedwr. Mae wedi cymryd amser hir i fi derbyn y teitl ond o’r diwedd ar ôl gorffen fy nhrydydd marathon rwyf nawr yn teimlo fy mod yn gallu ymfalchïo yn y llwyddiant a galw fy hunain yn rhedwr.

Roeddwn yn hwyr i redeg. Dechreuais redeg yn iawn yn 2013. Gwelais fy mod yn tyfu o gwmpas y bola (38″ waist!!!) ac felly penderfynais nad oeddwn ishe gweld y bola yn tyfu dim mwy, felly dechreuais redeg. 100 metr, 200 metr, hanner milltir, milltir ac yn y blaen. Y pellter a ffitrwydd yn datblygu dros gyfnod o amser. Darllenais rhywle bod y mwyafrif o ddechreuwyr yn rhoi’r gorau i redeg ar ôl pythefnos, ond os i chi’n llwydo mynd heibio’r pythefnos cyntaf – yna byddwch yn parhau i redeg.

Dros yr wythnosau nesaf, bwriadaf ysgrifennu’r blog yma fel dyddiadur hyfforddiant wrth i fi paratoi am Farathon Manceinion sydd yn cymryd lle ym mis Ebrill 2017. Hwn fydd fy medwaredd marathon. Bwriadaf ysgrifennu un neu ddwy erthygl y mis yn amlinellu’r daith wrth i mi anelu am amser sydd o dan 4 awr.

Mae gen i gynllun yn barod ac rwyf yn gobeithio cael help boi o’r enw Craig Armstrong sydd yn arbenigwr iechyd a chwaraeon ac yn rhedeg ‘Armstrong Health Specialists’ yn Cross Hands (Llanelli) – http://www.armstronghealthspecialists.com/. Y gobaith yw bydd y cynllun rhedeg a gwaith Craig yn helpu fi rhedeg yn gyflymach nag erioed tra hefyd codi ffitrwydd ac efallai cyrraedd y freuddwyd o ddatblygu abs cyn i fi cyrraedd 45 mlwydd oed.

Felly, dyna ni – yr erthygl gyntaf. Rwy’n gobeithio eich bod yn mynd i ddarllen fy stori dros yr wythnosau nesaf ble bwriadaf ysgrifennu mwy amdanaf i, am y rhedeg ac am unrhyw beth arall sydd yn dod i’m feddwl.

Gallwch ddarllen mwy amdano’r hyfforddiant ar fy mlog personol – The Running Geek http://www.running-geek.co.uk

View More News Stories