Run Wales

Y cam cyntaf yw’r anoddaf, ond yr un fwyaf boddhaol – wir yr

Mae’r flwyddyn newydd wedi ein cyrraedd, ac mae pawb wrthi’n creu addewidion di-ri. Os yr ydych chi, fel fi, wedi meddwl am gychwyn rhedeg y flwyddyn yma: gwnewch! Peidiwch ildio i feddylfryd negyddol a chychwynnwch arni! Fe wneith fyd o les i chi, a choeliwch i fi, cewch cymaint o foddhad wrth daro targedau personol tro ar ôl tro, fydd na ddim sbïo’n ôl!

Mae hi YN anodd cychwyn, yn enwedig os yw rhedeg yn rhywbeth newydd sbon. Fel athrawes newydd, a newydd symud i lawr i Gaerdydd ym mis Medi, rydw i’n barod i ddarganfod hyd a lledrith y brif ddinas drwy dreiddio traffic yn fy nhreinyrs – neu daps os ‘da chi o’r de!

Ond mae na lith o feddyliau negyddol dwi’n brwydro ddyddiol cyn cychwyn ar fy ‘jaunt’ – ond dyma sut dwi’n eu troi i syniadau positif.

  1. Mae’n rhy oer – fyddai’n gynnes mewn munud.
  2. Does gennyf i ddim amser – ai syth ar ôl gwaith am 20 munud gymra’i.
  3. Mynadd! – Tyd yn dy flaen, elli di neud hyn.
  4. Dwi’m yn teimlo fel rhedeg – fyddi di’n teimlo llawer gwell ar ôl rhedeg.
  5. Bydd methu un ddim yn gwneud gwahaniaeth – os ti’n methu un arall fydd di’n gorfod disgwyl yn hirach i hitio’r targed personol.

Rydw i’n gweld bod ysgogi dy hun i fynd a newid o fod yn negyddol i bositif yn help mawr cyn cychwyn rhedeg. Mae rhaid cael gobaith yn eich hun.

Cychwynnais redeg nôl ym Mangor blwyddyn ddiwethaf ond ers symud i’r de rydw i wedi colli’r drefn – un a gymerodd mis neu ddau i greu. Rŵan ydi’r amser i mi gychwyn yn ôl, ac mi fyddaf yn ysgrifennu blog bob pythefnos er mwyn cadw log o sut mae’n mynd.

Blwyddyn yma fydd y flwyddyn byddaf yn rhedeg 5k, 10k a hanner marathon! Ac mae’n rhaid i mi wneud o rŵan – wedi imi ysgrifennu fo lawr.

Be am I chi ysgrifennu eich targed personol chi ac mi wnewn i o efo’n gilydd?

Un, dau, tri – ffwrdd a ni!

Ffi

Tro nesa – sut gall cerddoriaeth effeithio eich rhedeg.

View More News Stories