Mae bywyd yn fregus …

Nes i gychwyn rhedeg tua phedair blynedd yn ôl ar o i’n Nhad farw.

Doedd Dad ddim yn ddyn hynod o ffit; yn ysmygwr, ers ei blentyndod, ac wedi treulio’i fywyd yn bwyta’r bwyd blasus – y stwff ‘da ni gyd yn gwybod sydd ddim yn dda inni! Gormod o facwn, selsig, a chig eidion! Gan ychwanegu hynny i’r ffaith nad oedd yn gwneud ymarfer corff – doedd o ddim yn cyd-bwyso’i ddiet gyda’r ymarfer oedd ei gorff angen i gadw’n iach. Yn ddyn eithaf ifanc, yn ei bedwardegau, fe gafodd “heart bypass” er mwyn helpu ei galon. Ond erbyn cyrraedd ei chwedegau, sylweddolodd bod angen iddo sortio’i hun allan, ac fe ymwelodd â’r doctor unwaith eto.

Roedd y doctor yn anhygoel; fe gafodd Dad ei gyfeirio at arbenigwr mewn clefyd y galon. Cafodd yr help yr oedd ei angen – ac wedi angen ers peth amser. Dechreuodd Dad edrych ar ôl ei hun. Dechreuodd golli pwysa a dechreuodd ei ffitrwydd wella, ond yn anffodus, yn hwyr un nos Fawrth dioddefodd Dad o anewrysm aortig (aortig aneurysm). Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, bu farw.

Roedd yr holl flynyddoedd o ‘smygu wedi gwanhau ei rhydweli, nes eu bod nhw’n debyg i bapur crêp. O ganlyniad, bob tro roedd y llawfeddyg yn trio gwnïo ei rhydweli roedd y pwythau yn rhwygo waliau’r rhydweli ac felly doedd dim modd trwsio’r niwed. Roedd bywyd o ‘smygu a pheidio ag edrych ar ôl ei hun wedi dal i fynnu efo Dad.

Dim fy mwriad yw adrodd stori ddagreuol; yr hyn dwi’n trio pwysleisio yw ei bod hi’n bwysig IAWN ein bod ni’n edrych ar ôl ein hunain. A dim jest am flwyddyn neu ddwy chwaith, ond trwy gydol ein hoes! Mae’n bwysig gwneud yn siŵr ein bod ni’n bwyta’n iach – wrth gwrs mae’r pethau drwg yn oce ‘in moderation’, ond ein bod ni hefyd yn gwneud ymarfer corff, ac yn ymofyn cyngor arbenigol os ar unrhyw adeg yr ydym yn poeni am iechyd, boed o’n gorfforol neu’n feddyliol.

Yn draddodiadol dyda ni hogiau a dynion ddim yn siarad am y pethau sy’n ein poeni. Ond mai rŵan yn amser i newid y traddodiad hynafol yna. Os fyddai Dad wedi trafod ei bryderon am ei iechyd deg neu ugain mlynedd yn gynharach mae’n hollol bosib y byddai dâl efo ni heddiw. A dyna ydi’r tristwch mwyaf o bosib; bod diffyg gofyn am help yn gynharach wedi cyfrannu ar ei farwolaeth.

Ar ôl i Dad farw, bues i’n dioddef o rywbeth yn debyg i iselder. Roeddwn i’n teimlo’n isel am gyfnodau hir, a doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth oedd yn mynd ymlaen yn fy mywyd. Ac yn hollol groes i’r hyn dwi’n sôn am heddiw yn y blog yma – nes i ddim siarad efo neb am hyn! Nes i ddim codi’r ffon, siarad hefo ffrind, mynd i weld y meddyg -nes i jest ddim codi’r ffaith fy mod i’n dioddef gyda neb! Nes i ddioddef mewn distawrwydd. I’r pwynt ble ro’ ni môr isel doeddwn i ddim isio codi a mynd i’r gwaith. Mi oni ar goll. Ond newidiodd rhywbeth – nes i roi pâr o treinyrs amdanaf, ac es i run. Ddim yn bell, doeddwn i ddim yn ffit o gwbl! So, ar ôl y bedwaredd allt, nes i stopio am seibiant, a throi i edrych ar yr olygfa…yn syml, roedd be welish i’n anhygoel! A dyna fo…nes i ddisgyn mewn cariad efo rhedeg.

Dechreuais redeg yn aml wedyn, ag yn araf bach ddaru redeg rhoi ffocws newydd imi! Ag i fi, yn bersonol, roedd o’n achubiaeth. Roedd colli Dad wedi ysgwyd bob dim yn fy mywyd; roedd bob dim roeddwn i’n gwybod ac yn coelio wedi newid, a rhedeg oedd y peth cyntaf ers i Dad farw ddaru roi canolbwynt i’m mywyd. A ddaru canolbwyntio ar redeg helpu fi dechrau cael mwy o reolaeth dros fy mywyd. Mewn gwirionedd, ac wrth edrych yn ôl, byddai trafod pethau oedd yn digwydd efo rhywun wedi helpu gymaint hefyd, ond da ydi hindsight de!

Dwi ddim yn siŵr pam fy mod i’n meddwl ei bod hi ddim yn syniad da is siarad, a hyd heddiw, dwi ddim yn deall pam na wnes i ofyn am dipyn bach o help. Dwi ddim rili yn hollol siŵr pam bod yna stigma o gwmpas dynion yn trafod eu hiechyd chwaith, ond mai un peth sy’n sicr – MAE’N RHAID NEWID. Does yna ddim byd yn bod efo gofyn am help. Gan ddoctor, gan ffrind, gan riant, gan gydweithiwr – does dim ots pwy! Y peth pwysig yw, GWNEUD.

Mae bywyd yn fregus, ac ydan ni am ddisgwyl i’r diwrnod ‘na pan mai jest rhy hwyr? Na, felly beth am neud y newid heddiw – gwnewch hyn yn aduniad blwyddyn newydd cynnar i chi eich hun! Os ydych chi’n poeni am unrhyw beth, mae’n amser bod yn onest efo chi’ch hyn, a chychwyn siarad.

back to 'meet the runners'