{"id":2706,"date":"2017-05-25T08:56:38","date_gmt":"2017-05-25T08:56:38","guid":{"rendered":"https:\/\/irun.wales\/?p=2706\/"},"modified":"2017-06-13T22:32:43","modified_gmt":"2017-06-13T22:32:43","slug":"cofnodi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/","title":{"rendered":"Cofnodi &#8230;"},"content":{"rendered":"<h2>Ydych chi\u2019n cofnodi eich rhediadau? Ydi hi\u2019n bwysig i gofnodi eich rhediadau; pellter, cyflymder, amser, y llwybr?<!--more--><\/h2>\n<p>Dwi ddim yn meddwl bod \u2018na ateb cywir neu anghywir i\u2019r cwestiwn yma. Mae\u2019n debygol bod yr ateb yn ddibynnol ar eich rhesymau dros redeg. Ydych chi\u2019n rhedeg er mwyn cael dipyn bach o amser i chi\u2019ch hyn? Neu fel fi, er mwyn gwneud eich \u201cffeilio meddyliol\u201d? Neu, a ydych chi\u2019n rhedeg er mwyn cael sialens? 5k, 10k neu hanner marathon (neu bellach o bosibl?!). Tydi\u2019r ffaith eich bod chi heb gofnodi eich rhediad ddim yn meddwl eich bod chi heb fod allan, nac eich bod chi heb losgi\u2019r calor\u00efau \u2018na!<\/p>\n<p>Ond mae cadw cofnod o\u2019ch rhediadau yn meddwl eich bod chi\u2019n gallu cadw llygaid ar eich perfformiad, sy\u2019n gallu bod yn beth da. Hynny yw, os ydych chi\u2019n rhedeg, ac yn rhedeg yn aml ac yn recordio\u2019r amseroedd hynny o wythnos i wythnos, yna does dim dwywaith amdani- mi welwch eich amseroedd yn gwella, mi welwch y pellteroedd yn ymestyn a\u2019ch mi gewch hwb o weld y \u2018pace\u2019 yn cyflymu! Os nag ydych chi\u2019n cofnodi eich rhediadau, yna mi fydd hi\u2019n anoddach i chi wybod hyn i gyd. Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn cryfhau; yn brifo llai, yn gallu rhedeg i ben yr allt \u2018na ble oedd rhaid cerdded i fyny yn flaenorol. OND heb gofnodi, sut ydych chi\u2019n hollol si\u0175r?<\/p>\n<p>Yn y blog yma, dwi am redeg (no pun intended!) trwy \u2018chydig o wahanol ffyrdd o gofnodi eich rhediadau, a pa wybodaeth syml, ond defnyddiol mae\u2019n bosib darganfod o\u2019r wybodaeth. Wwwww \u2013 a chyn i mi anghofio &#8211; MAPIAU! A\u2019u pwysigrwydd!<\/p>\n<p>Y ffordd symlaf i gofnodi eich rhediadau ydi cadw llygaid ar yr amser wrth adael ac wrth dd\u0175ad yn \u00f4l &#8211; gydag oriawr syml o ryw fath; wedyn gallwch gofnodi\u2019r amser mewn dyddiadur rhedeg neu ar ddarn o bapur. I fod yn onest, hyd yn oed os nag ydych chi\u2019n gwybod pa mor bell yr ydych yn rhedeg, os ydych chi\u2019n rhedeg yr un llwybr tro ar \u00f4l tro ac yn cymryd llai o amser i\u2019w gyflawni, yna da chi\u2019n gwybod eich bod chi\u2019n gwella! Ond os ydych chi\u2019n debyg i fi, yna byddwch chi\u2019n diflasu ar redeg yr un ffordd tro ar \u00f4l tro, a byddwch chi\u2019n ysu i redeg llwybrau\/ffyrdd gwahanol. Ac os ydych chi\u2019n newid yn aml, yna sut ydych chi\u2019n mynd i wybod pa mor bell yr ydy\u2019ch i\u2019n rhedeg?<\/p>\n<p>Wel, peidiwch \u00e2 phoeni, oherwydd dyma le mae technoleg yn help! Cyn cychwyn trafod technoleg, mae\u2019n rhaid i mi gyfaddef &#8211; dwi\u2019n geek enfawr! Dwi &#8216;di gwirioni efo teclynnau, technoleg, ffonau symudol, cyfrifiaduron ayyb! Ac yn ffodus i mi, dwi\u2019n gallu cyfuno\u2019r obsesiwn yma hefo rhedeg! Dwi\u2019n gallu strapio fy ffon i\u2019m mraich, ac yn gallu defnyddio\u2019r GPS I ddilyn fi ble bynnag dwi\u2019n mynd- a dwi wrth fy modd!<\/p>\n<p>Felly, os ydych chi hefo ffon \u2018clyfar\u2019 sydd yn rhedeg Android, iOS neu Windows, yna mae\u2019r opsiynau\u2019n ddiddiwedd! Mae &#8216;na apiau iechyd a ffitrwydd sy\u2019n cofnodi eich rhediadau ac yn rhoi adborth i chi wrth i chi rhedeg. Dwi yn defnyddio Nike+, yn bennaf oherwydd fy mod i wedi bod yn defnyddio Nike+ ers tua 7 mlynedd &#8211; a \u2018da ni gyd yn \u2018creatures of habbit! Ond y rheswm pennaf yw; dyna ble mae fy holl wybodaeth &#8211; fy hanes rhedeg fel petai wedi ei storio.<\/p>\n<p>Wrth sgwennu\u2019r blog yma, dwi wedi darganfod bod y nifer apiau sydd ar gael wedi dyblu os nad treblu ers imi gychwyn\u2026 ond dydw\u2019i ddim am fynd trwy\u2019r da na\u2019r drwg &#8211; mae yna ddegau o wefannau sydd wedi gwneud hyn yn barod! Dwi ond eisiau rhoi syniad i chi o beth dwi\u2019n gwneud a\u2019r buddion o gofnodi amser y ddigidol.<\/p>\n<p>Pan ddechreuais redeg, prynais strap i mi gael strapio ffon i\u2019m mraich. Ar y ffon yn barod oedd yr ap priodol oni am ei ddefnyddio a nes i jest i hitio\u2019r botwm \u201cGO\u201d wrth gychwyn, a hitio\u2019r botwm \u201cGORFFEN\u201d wrth orffen. Syml de?! Yn ystod y rhediad, roedd llais mecanyddol yr ap yn gadael mi wybod am y rhediad (yr amser, y pellter fy nghyflymder) bob milltir yr oeddwn yn cymryd ac roeddwn yn hooked!<\/p>\n<p>Ac ar ddiwedd y rhediad roedd fy hoff ap yn y byd yn gadael mi wybod mod i wedi cyflawni \u201c5 milltir mewn amser o 50 munud, 50 eiliad ar gyflymder o 10 munud, 10 eiliad y filltir yr awr\u201d, ac os ydych chi\u2019n lwcus, bydd rhyw Americanes yn eich llongyfarch chi ar eich rhediad cyflymaf, hiraf neu eich milltir cyflymaf! Mae fel cael Hyfforddwr Personol yn rhad ac am ddim!!<\/p>\n<p>Ac un tro, ar ol imi gofnodi fy milltir cyflymaf &#8211; erioed, ges I Paula Radcliffe yn fy llongyfarch&#8230; ac o\u2019n i\u2019n fodlon iawn efo hynny \u2013 y pethau bach sy\u2019n plesio \u2018de!!<\/p>\n<p>Byddai wedyn yn llwytho fy amser i systemau\u2019r ap, ac oherwydd hynny mai\u2019n bosib adolygu eich rhediad, edrych ar y map (os ydi GPS wedi gweithio), a gweld bel yr oeddech fwy araf neu gyflym\u2026 a llawer mwy wrth gwrs. Mae fy hoff fap (ac oes ma gen i hoff fap! Trist de!) isod:<\/p>\n<p>Mae\u2019n dangos fy mod di rhedeg allan i\u2019r m\u00f4r &#8211; gwneud fi edrych fel tipyn o foi! Ond I fod yn onest rhedeg ar y traeth wnes i tra bod y llanw allan \uf04a Ond ma\u2019 redeg ar dywod yn anodd cofiwch! So mi oni\u2019n dipyn o foi &#8211; plys nes i wlychu fy nhraed \u2018fyd!<\/p>\n<p>Erbyn hyn dwi di symud ymlaen o wisgo ffon ar fy mraich, a dwi di wario llond sach o arian ar Tom-tom Multisport Cardio (mae dyfeisiadau eraill ar gael wrth gwrs!) &#8211; a dwi wrth fy modd!<\/p>\n<p><img class=\"img-responsive\" src=\"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/irunwales\/web\/app\/uploads\/gareth001-1.jpg\" alt=\"Gareth TOM TOM\" \/><\/p>\n<p>Er nad oedd gwisgo&#8217;r ffon ar fy mraich erioed wedi achosi unrhyw fath o anhawster i mi, mae cael y Tom-tom \u2018ma ar fy ngarddwn wedi gwneud gwisgo\u2019r ffon deimlo fel gwisgo bricsen ar fy mraich. R\u0175an, wrth wisgo\u2019r oriawr, dwi\u2019n cychwyn y rhediad wrth daro cwpl o fotymau, disgwyl i GPS cychwyn (mae\u2019n cymryd munud, ac yn rhoi caniad bach pan mae\u2019n barod i fynd) a dwi off!<\/p>\n<p>Gyda\u2019r oriawr, dydw i ddim yn cael unrhyw fath o adborth wrth redeg fel yr oeddwn gyda\u2019r ffon, dim ond cip olwg sydyn ar fy ngarddwrn sydd angen a dwi\u2019n gwybod bob dim dwi angen gwybod. Yn ystod y rhediad mae\u2019r oriawr yn cyflwyno gwybodaeth sylfaenol i mi (amser, pellter, cyflymder), ond ar \u00f4l llwytho\u2019r rhediad i fy ffon symudol; dyma le mae\u2019r wybodaeth yn dechrau canu! Dwi\u2019n cael map, manylion pob milltir dwi di redeg, manylion o fy milltir cyflymaf ac arafaf, fy uchder, faint dwi &#8216;di dringo, a churiadau calon. Digon o \u2018ystadegau i geek fel f. Wrth gwrs, mae\u2019n hawdd cael eich llethu gan yr holl ystadegau, ond os ydych chi\u2019n canolbwyntio ar y rhai pwysicaf, mae\u2019n bosib dysgu pethau diddorol amdanoch chi\u2019n hun. Ydych chi\u2019n rhedeg yn well ben bore yntau gyda\u2019r nos? Ydych chi\u2019n rhedeg digon o elltydd (da ni gyd yn cas\u00e1u elltydd, ond mae angen paratoi ar eu cyfer nhw; yng Nghymru yda ni, ar ddiwedd y dydd a does dim eu hosgoi!)? Nes I sylweddoli yn ddiweddar fy mod i ond yn dringo 70 troedfedd yn ystod fy 10km rheolaidd! Dwi\u2019n si\u0175r bod yna ddim llawer o lefydd yng Nghymru lle mae\u2019n bosib rhedeg 10km a dim ond dringo 70 troedfedd! Ond, nes i wedyn wneud penderfyniad a dewis fy mod i\u2019n mynd i daclo mwy o elltydd wrth redeg o hyn ymlaen (dwi wedi ymuno a gr\u0175p bach o \u201ctrail runners\u201d yn ddiweddar, ac mewn rhediad yn y misoedd diwethaf, roedd yna dros 1100 troedfedd o elltydd &#8211; ond mwy am hynny yn fy mlog nesa!).<\/p>\n<p>Felly, dyna fy siwrne i o gofnodi rhediadau. Dydw i ddim yn dweud ei fod mai hyn yw\u2019r ffordd berffaith, ond mae\u2019n gweithio imi. A dyna sy\u2019n bwysig &#8211; darganfod rhywbeth sy\u2019n gweithio i chi ac yn eich gwneud yn hapus!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ydych chi\u2019n cofnodi eich rhediadau? Ydi hi\u2019n bwysig i gofnodi eich rhediadau; pellter, cyflymder, amser, y llwybr?<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3273,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0},"categories":[19],"tags":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v14.9 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Cofnodi ... - Run Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index,follow\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cofnodi ... - Run Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ydych chi\u2019n cofnodi eich rhediadau? Ydi hi\u2019n bwysig i gofnodi eich rhediadau; pellter, cyflymder, amser, y llwybr?\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Run Wales\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/irun.wales\/app\/themes\/runwales\/dist\/images\/facebook.svg\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2017-05-25T08:56:38+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2017-06-13T22:32:43+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/irun.wales\/app\/uploads\/gareth01-1-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"271\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"251\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@RunWales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@RunWales\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/#organization\",\"name\":\"iRun Wales\",\"url\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/\",\"sameAs\":[\"https:\/\/irun.wales\/app\/themes\/runwales\/dist\/images\/facebook.svg\",\"https:\/\/www.instagram.com\/runwales\/\",\"https:\/\/irun.wales\/\",\"https:\/\/twitter.com\/RunWales\"],\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/#logo\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"url\":\"https:\/\/irun.wales\/app\/uploads\/Screen-Shot-2017-07-11-at-11.59.51.png\",\"width\":470,\"height\":418,\"caption\":\"iRun Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/#logo\"}},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/\",\"name\":\"Run Wales\",\"description\":\"Welsh Athletics Social Running Programme\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/?s={search_term_string}\",\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"ImageObject\",\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/#primaryimage\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"url\":\"https:\/\/irun.wales\/app\/uploads\/gareth01-1-1.jpg\",\"width\":271,\"height\":251},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/#webpage\",\"url\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/\",\"name\":\"Cofnodi ... - Run Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/#primaryimage\"},\"datePublished\":\"2017-05-25T08:56:38+00:00\",\"dateModified\":\"2017-06-13T22:32:43+00:00\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/\"]}]},{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/#webpage\"},\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/#\/schema\/person\/dc781d48b219cbb7d2b6e9f35ed063f0\"},\"headline\":\"Cofnodi &#8230;\",\"datePublished\":\"2017-05-25T08:56:38+00:00\",\"dateModified\":\"2017-06-13T22:32:43+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/#webpage\"},\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/#primaryimage\"},\"articleSection\":\"newyddion\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/irun.wales\/cy\/newyddion\/cofnodi\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/irun.wales\/cy\/#\/schema\/person\/dc781d48b219cbb7d2b6e9f35ed063f0\",\"name\":\"Staff\",\"description\":\"We all run for different clubs and different reasons, but we all love running because we know it helps us so much.\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/irun.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2706"}],"collection":[{"href":"https:\/\/irun.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/irun.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/irun.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/irun.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2706"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/irun.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2706\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3070,"href":"https:\/\/irun.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2706\/revisions\/3070"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/irun.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3273"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/irun.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2706"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/irun.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2706"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/irun.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2706"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}