Run Wales

Rhwng y defnydd cyson o ffonau symudol, e-byst yn pingio, cyd-weithwyr sgwrsgar a phlant swnllyd, gall fod yn anodd cael ennyd o heddwch a distawrwydd yn ystod y dydd. Gall rhedeg ar eich pen eich hun roi cyfle i chi ddistewi’r byd (yn enwedig os byddwch chi’n gadael y teclynnau adref) a manteisio i’r eithaf ar fudd rhedeg fel ffordd o ryddhau straen.

Drwy redeg eich hun:

Gallwch fanteisio ar y cyfle i wrando ar eich corff a’r hyn y mae’n ei ddweud wrthych – gallwch ganolbwyntio ar eich dull, eich amgylchedd a’r ffordd yr ydych yn teimlo.

  • Chi pia’r rhedeg – mae mynd eich hun yn golygu y gallwch redeg i le bynnag yr ydych yn dymuno pa bryd bynnag yr ydych yn dymuno! Dim disgwyliadau – wel ar wahân i’r rhai yr ydych yn ei gosod i chi eich hun! Eich amser chi yw hwn i redeg, archwilio a mwynhau eich cwmni eich hun – gwnewch yn fawr ohono!
  • Rydych yn dechrau arfer mwy gyda’r rhedeg – Dim yn rhedeg cystal? Dim yn mwynhau gwres yr haf? Mae’n gysur cwyno am bethau o’r fath wrth gyfaill neu grŵp rhedeg. Gall cyd-redwr roi pob math o fantrâu i chi er mwyn eich cadw i fynd. Ond beth os ydych chi eich hun pan fyddwch yn cyrraedd pwynt anodd wrth redeg a bod meddwl am daclo’r rhan anodd/yr allt/amser ayb yn ddigon i wneud i chi fod eisiau crio? Dim ond chi all eich ysgogi eich hun.
  • Mae rhedeg eich hun yn anos yn feddyliol, ond gallwch ddysgu sut i wynebu her, gwella’r ffordd yr ydych yn profi eich terfynau, a dod yn rhedwr cryfach, balchach yn y pen draw. Felly ymlaen â chi i fyny’r allt!

Os ydych chi’n mwynhau rhedeg eich hun, gadewch i Redeg Cymru fod yn ffrind i chi! Mae gennym ni’r adnoddau i’ch cynorthwyo ar eich ffordd. Drwy gofrestru gyda ni, byddwch yn cael cyngor ar sut i ddewis y rhaglen redeg orau i chi, cymorth ar ffurf cynlluniau hyfforddiant, a llawer mwy.