Run Wales

Croeso i #RhedegGydaNi

Drwy fis Ebrill, rydyn ni’n annog pawb yng Nghymru, waeth beth fo’u profiad a’u lefel, i fynd allan i’r awyr agored a dathlu pleserau rhedeg.

Wrth eich pwysau

Efallai na fuoch chi’n un am chwaraeon erioed, neu efallai eich bod chi wedi llithro ychydig yn ddiweddar, mae croeso i bawb yn Rhedeg Gyda Ni.

Dim targedau ffitrwydd. Dim angen cofrestru ar gyfer cystadlaethau na digwyddiadau, ac yn bendant dim sôn o fath yn y byd am sesiynau hyfforddi caled a diflas.

Mae’r mis yma yn un i ganolbwyntio ar ddod o hyd i gyfleoedd agored, difyr a chyfeillgar i redeg yn eich ardal chi.

Gallai olygu dechrau drwy loncian ar hyd eich stryd. Mynd i redeg gyda ffrind. Neu gallai olygu ymuno â grŵp rhedeg lleol.

Beth bynnag fyddwch chi’n dewis ei wneud, rhaid ei wneud wrth eich pwysau.

Pam Rhedeg Gyda Ni?
Dysgwch am y buddion iechyd sy’n dod gyda phob cam
runners at parkrun
Camau Cyntaf Gyda Ni
Rhaglen wedi ei chynllunio ar gyfer y rhai sy’n dechrau gwneud ymarfer corff a ddim yn barod i redeg yn bellach ar hyn o bryd.
Group running
Ysgogiad Gyda Ni
Straeon am y rhai sydd wedi cychwyn ar eu taith.
four women after a run
Rhedeg Gyda Ni
Ystyried ymuno â grŵp? Mae gennym ni adnodd gwych er mwyn chwilio am grwpiau rhedeg cyfeillgar a chymdeithasol yn eich ardal leol.
Park Run Gyda Ni
Rhedeg 5km difyr, cyfeillgar, wythnosol mewn 29 lleoliad dros Gymru
lady running on treadmill
Rhedeg yn Rhithiol Gyda Ni
Yn agored i bob oedolyn o unrhyw oed a gallu. Mae Clwb Rhedeg Cymru wedi ei gynllunio ar gyfer y rhai sy’n brin o amser i ymuno ag un o’n clybiau rhedeg, neu os nad oes clwb gerllaw, ond eich bod eisiau bod yn rhan o gymuned o redwyr o’r un anian

Rhannu’r Newydd Gyda Ni

Rydyn ni’n defnyddio’r hashnod #RhedegGydaNi / #RunWithUs ar ein safleoedd ar y cyfryngau cymdeithasol – ac mae croeso i chi ei ddefnyddio. Crybwyllwch ni, rhannwch stori neu cyfeiriwch eraill at Rhedeg Cymru. Byddai’n bleser eich cael chi’n rhan o’r drafodaeth.


Diddori mewn cyfleoedd rhedeg ond nawr ddim yn yr amser gorau? Dim problem, gadewch eich manylion ac fe gadwn ni mewn cyswllt ynglŷn â ffyrdd i gychwyn arni pan fyddwch chi’n barod.