Run Wales

Ni allwn ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y ffordd y byddem fel arfer. Ond fel cenedl, gallwn ni wneud rhywbeth gyda’n gilydd o hyd, hyd yn oed os ydyn ni ar wahân yn gorfforol.

Y Dydd Gŵyl Dewi hwn, rydyn ni am gael Cymru i symud a darganfod Cymru sydd y tu hwnt i’n drysau ffrynt. Rydym yn chwilio am fusnesau, ysgolion ac unigolion i wneud rhediad #OFyNrws a rhannu pam mae Cymru yn lle mor wych i fyw, gweithio ac astudio ynddi.

Rhedeg, cerdded, neu loncian – bydda’n rhan ohono.

Ers y cyfnod clo, mae ein cartrefi wedi dod yn bopeth i ni. Ein swyddfeydd, ein hysgolion, ein nosweithiau i mewn a’n nosweithiau allan. Ond, ein drws ffrynt yw’r porth i rywbeth y tu hwnt i’r pedair wal hynny. Y llinell gychwyn i gael awyr iach, ymarfer corff, ac amser meddwl.

Ac mae’r raddfa y mae pobl yng Nghymru wedi cymryd i gamu y tu allan i’w drysau ffrynt i ennill y buddion yn enfawr. Aeth dros 350,000 o bobl y tu allan i’w pedair wal i redeg yn ystod cyfnod clo 2020. Ac rydyn ni’n gofyn i ti fod yn rhan o’r mudiad hwnnw.

P’un a wyt ti’n lonciwr am y tro cyntaf neu’n hen law, fe alli di gymryd rhan. Neidia oddi ar y soffa, gwthia dy hun trwy’r drws ffrynt, a darganfydda fanteision meddyliol a chorfforol rhedeg. Fe alli di redeg am bum munud, neu bum milltir. Beth bynnag fo’r tywydd, beth bynnag fo dy amgylchiadau, beth bynnag fo dy gyflymder, amdani.

A’r rhan orau? Ni fyddi di’n carlamu ar hyd y palmantau ar dy ben dy hun; mae cannoedd o glybiau, grwpiau a heriau rhedeg yn cymryd rhan ar hyn o bryd ledled Cymru, gan gynnig cefnogaeth i ti nid yn unig nawr, ond trwy gydol y flwyddyn.

Cysyllta â’n cymuned gynyddol o redwyr trwy rannu lluniau a fideos ohonot yn gadael dy ddrws ffrynt gan ddefnyddio #OFyNrws.

Cymru ar ras!