Run Wales
Meddwl Iach

Mae rhedeg yn rhyddhau tensiwn, iselder a phryder ac oherwydd yr endorffinau sy’n cael eu rhyddhau i’r gwaed, mae rhedwyr yn bobl hapus.

Ymennydd Hapus

Mae’r ymennydd yn elwa wrth i’r corff weithio’n galed. Caiff cellau nerfau a phibellau gwaed newydd eu creu yn yr ymennydd wrth redeg, organ sy’n tueddu i fynd yn llai wrth inni fynd yn hŷn.

Calon lân

Mae’r galon yn gyhyr hanfodol yn y corff ac mae’n cryfhau wrth inni weithio’n galetach.

Pwysedd Gwaed Uchel

Mae’r rhydwelïau’n ehangu ac yn cyfangu wrth redeg. Mae bod yn actif yn helpu i gadw’r rhydwelïau’n heini, sydd wedyn yn cadw’r pwysedd gwaed yn iach.

Cryfhau’r System Imiwnedd

Mae rhedeg rheolaidd yn cryfhau’r corff yn erbyn germau, sy’n arwain at lai o fân salychau.

Coesau Cryfion

Mae coesau rhedwyr yn bwerdy. Maen nhw’n mynd â ni o A i B, yn mynd â ni i fyny ac i lawr gelltydd ac yn ein galluogi i redeg pellterau hir. Bydd hefyd yn anos eu ffitio i mewn i’r jîns main pan mae’r hyfforddiant ar gyfer marathon ar ei anterth.

Rhyddhau straen

Caiff lefel seratonin yr ymennydd hwb, sy’n golygu ein bod yn llai cynhyrfus ac yn ymlacio. Pwy sy’n dweud nad oes modd inni redeg oddi wrth ein problemau?!

Cynyddu Dwysedd Esgyrn

Mae rhedeg yn rhoi straen ar yr esgyrn – ond mewn ffordd dda! Drwy redeg, anfonir mwynau hanfodol i’r esgyrn sy’n eu gwneud yn gryfach.

Mwy o Gryfder a Sefydlogrwydd yn y Cymalau

Mae rhedeg yn cynyddu cryfder ein ligamentau a’n tendonau. Rydym yn canfod, drwy redeg, fod ein cymalau’n gallu gwrthsefyll mwy o filltiroedd a mwy o dir anwastad wrth inni ddod yn fwy heini a chryfach. Ond nid yw hynny’n golygu nad oes perygl i chi droi eich ffêr wrth redeg ar lwybrau Cymru! Felly byddwch yn ofalus.

Mwy o Hyder

Yn gyffredinol, ar ôl i ni ddechrau rhedeg, bydd ein hyder yn dechrau cynyddu hefyd. Gall hyder wneud inni deimlo bod ein bywyd a’n corff dan reolaeth. Rydym ni i gyd yn dechrau teimlo ein bod ni’n edrych yn dda mewn teits spandex hyd yn oed!

Cychwyn arni

Mae Rhedeg Cymru’n cynnig nifer o gyfleoedd er mwyn eich helpu i ddechrau ar eich siwrnai redeg; o adnoddau defnyddiol, straeon i’ch ysbrydoli a rhwydwaith cefnogol, rydym ni yma i’ch helpu ar eich ffordd.

Beth am ddarllen am sut y cychwynnodd Hannah, ein Hyrwyddwr Rhedeg,  ar ei siwrnai redeg……

Neu sut y daeth Richard i redeg ar ôl gyrfa iau lwyddiannus yn chwarae Hoci Iâ.

Mae un peth yn bendant, waeth beth fydd pobl yn ei ddweud, does dim ffordd gywir nac anghywir i gychwyn arni – mae pawb yn wahanol.

Mae rhai ohonom ni’n mwynhau rhedeg ein hunain a dydi ymuno â chlwb ddim yn apelio, ac mae’n WELL gan eraill redeg gyda grŵp o ffrindiau, cydweithwyr neu  bobl o’r un anian, ac yna mae’r rhai ohonom ni sy’n hoffi cyfuniad o’r ddau.

Felly chi sy’n penderfynu sut yr hoffech chi gamu ymlaen! Darllenwch ein rhestr o fanteision rhedeg eich hun a rhedeg mewn criw er mwyn i chi gael cychwyn arni!