Run Wales

Mae’n thema gyffredin ymysg  y gymuned redeg:  gofynnwch i unrhyw redwr sut y cychwynnodd arni ac yn aml iawn bydd yr ymateb yn cychwyn gyda rhywbeth fel, “Wel i ddweud y gwir, roeddwn i’n arfer casáu rhedeg…” neu efallai “Doeddwn i ddim yn dda am redeg yn yr ysgol”.

Rydym ni i gyd yn euog o ddefnyddio ystrydeb o’r fath, ac am flynyddoedd lawer roedd yn ddigon i atal llawer ohonom ni rhag rhoi ein hesgidiau rhedeg am ein traed a rhoi cynnig arni.

Y wers y gellir ei dysgu o hyn fodd bynnag, yw bod rhedeg yn anodd ar y cychwyn ac i fod yn onest mae’n gwneud i chi deimlo nad oes ffordd yn y byd y gallai ddod yn ddifyr! Does dim gwahaniaeth a ydych chi’n frwd ynglŷn ag ymarfer corff neu’n ddiogyn o’r radd flaenaf sydd â’ch bryd ar symud mwy: os yw rhedeg yn newydd i chi mae’n debygol o fod yn dipyn o sialens ar y dechrau.

Ond, gydag ychydig o amser ac ymdrech, byddwch yn dechrau teimlo’n fwy cyfforddus ac yn dechrau mwynhau. Fodd bynnag, does dim disgwyl i chi redeg eich hun. Mae pob un o’n rhedwyr, sy’n dod o bob cwr o Gymru, wedi bod yn eich esgidiau chi, a chael y crys T! Boed chi’n dechrau arni ar hyn o bryd fel Brett, neu’n hen law arni fel Richard, fe gewch ysbrydoliaeth ym mhob un o’u blogs gonest ac ysgogiadol.