Run Wales

Rydym yn ymwybodol o fanteision rhedeg mewn grŵp yn barod, ac mae gennym ni dros 70 o grwpiau rhedeg anffurfiol a chymdeithasol sy’n cynnal sesiynau difyr, cyfeillgar a chefnogol i bob rhedwr dros y wlad.

Fodd bynnag, mae’n bosib na fydd modd ichi ddod o hyd i ddarpariaeth yn eich ardal ac y byddech yn hoffi sefydlu eich grŵp rhedeg cymdeithasol eich hun. Os felly, gallwn eich helpu…

Y cwestiwn cyntaf i’w ofyn i chi eich hun yw ‘alla i ysbrydoli eraill i redeg?’

Rydym ni’n credu, os ydych chi:

  • wrth eich bodd yn rhedeg ac eisiau rhannu eich mwynhad gyda phobl eraill
  • yn rhan o sefydliad cymunedol sy’n gweld budd annog ffitrwydd, gweithgaredd a mwynhad drwy gerdded, loncian a rhedeg
  • yn rhan o glwb athletau, ac eisiau trefnu darpariaeth addas i bobl sy’n dechrau arni yn eu hardal neu eisiau denu aelodau newydd
  • yn unigolyn, yn grŵp o ffrindiau neu’n gydweithwyr sy’n cael lles a mwynhad o redeg ac eisiau rhannu hynny gydag eraill
  • yn rhywun fyddai’n hoffi rhedeg gydag eraill

Gallech chi fod yr unigolyn perffaith i sefydlu grŵp rhedeg a rhannu eich brwdfrydedd a’ch cariad tuag at redeg gydag eraill!

Cysylltwch â ni er mwyn clywed mwy am sut y gallwn eich helpu