Run Wales

The Run-Life Balance

Dwi yn aml yn teimlo fel rhagrithiwr pan yn ‘sgwennu’r blog ‘ma, yn bennaf oherwydd fy mod i’n mynd trwy adegau gwahanol hefo redeg… weithia fyddai’n rhedeg yn aml ac yn mynd rêl boi am dau-fis, ond wedyn fyddai’n stopio am dau-fis. Ydi hi’n iawn fy mod I’n sgwennu blog am rhedeg? Yn enwedig ar adeg pan dwi ddim yn rhedeg…

Dyma pam, y tro yma, dwi’n teimlo fel fraudster!

Un o’r problemau dwi’n cael yn trio gwneud habit go iawn o rhedeg ydi’r “run-life balance”. Dwi’n gwybod yn iawn mai ddim fi ‘di’r unig person sy’n byw yn eithaf pell o gwaith; dwi’n trefeillio am awr bob bore i gwaith, ac yna yn ôl gyda’r nos. Dwi’n gadael y tŷ am 7:20, ac y cyrraedd yn ôl erbyn tua 18:10. Erbyn rhoi’r genod i’w gwlâu, mae’n cyrraedd 19:30, ac erbyn hyn mae fy lefelau egni di gostwng yn syfrdanol! Yr oll dwisho neud ydi eistedd lawr a jest gwylio 4 episod o The big Bang Theory. A gyda’r nosweithiau y dechra byrhau, y peth olaf dwi isho gwneud ydi tynnu pâr o trainers a mynd allan yn y gwynt a’r glaw – achos dyma fel mai yn y Gaeaf yn y Gogledd Cymru!

Ond, does gynna’i ddim llawer o dewis – dyma yr unig adeg sydd gen i! Felly er gwaethaf y tywyllwch, y gwynt a’r glaw, a’r oerfel… dwi jest yn gorfod gwisgo’r trainers, estyn y het a’r menig a mynd fatha dyn gwyllt!

Oni bai eich bod yn cadw treadmill cudd o dan y grisiau ar gyfer dyddiau glawog – allan amdani ydi’r unig opsiwn! Ond os yda’ch i’n un o’r rheini sydd hefo treadmill yn y tŷ – dwi’n cenfigennus! Plîs gyrrwch “tweet” i fi yn danogos y hwyl ‘da chi’n gael yn rhedeg mewn tŷ clud! Dwi ar Twitter, @goggzy5isalive – ne os yda chi’n avid outdoor winter runner – beth am i chi yrru tips i fi i’m cadw fynd dros y gaeaf? Dwi angen bob help yr allai gael 😉 ! O sut ydych chi’n gweithio’ch hyn i fynu er mwyn mynd, i sud ‘da chi’n cadw’n saff, a mwynhau!

Ar nodyn gwahanol, ydych chi’n rhedeg gyda grŵp, neu ar ben eich hyn? Ydi hi’n well gynno chi rhedeg ar ben eich hyn? Dwi wrth fy modd yn rhedeg ar ben fy hyn – fel dwi di sôn yn fy mlog o’r blaen- dwi’n cael cyfle i wneud fy ffeilio meddyliol! Ond, dwi hefyd yn ffeindio fy mod i’n dueddol o beidio a gwthio fy hyn cweit digon os ydw’i ar ben fy hun chwaith. Os dwi yn penderfynu bod yn gymdeithasol a mynd hefo ffrind ne grŵp, yna ma’r “peer pressure” i berfformio YN helpu fi i gyflawni fy amseru gorau! Mae yna digon o grwpiau cymdeithasol o gwmpas, jest edrychwch ar y wefan hon i ddarganfod un. Mae yna hefyd llwyth o parkrun’s bob bore Sadwrn i’n hannog ni- beth am drio un?!

DO IT!!

View More News Stories