Run Wales

Partneriaeth Newydd gyda DW Fitness First

Rydym yn falch o gyhoeddi ein partneriaeth newydd gyda DW Fitness First, cwmni campfa a manwerthu pennaf y DU.

Yn dilyn prynu Fitness First yn 2016, mae gan grŵp DW Fitness First 122 o gampfeydd ag 89 o siopau manwerthu ledled y DU. Mae grŵp DW First First yn rhannu ein hymrwymiad a’n gweledigaeth o ddarparu cyfleoedd i bawb yng Nghymru i fod yn fwy actif, boed hynny drwy gefnogi unigolion a grwpiau i redeg, loncian neu gerdded eu cilomedr cyntaf, i ymgymryd â’r her o gyflawni hanner marathon, neu i weithio tuag at eu gôl rhedeg bersonol.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda DW Fitness First dros y misoedd nesaf i gynnig amrywiaeth o fuddion i’r gymuned rhedeg gymdeithasol yng Nghymru. Bydd ein cymuned yn elwa o ostyngiadau i’r campfeydd ac ar ddillad chwaraeon, byddwn yn sefydlu grwpiau rhedeg cymdeithasol Rhedeg Cymru o leoliadau DW Fitness First, yn cynnal nosweithiau unigryw yn y siopau, ynghyd a llawer iawn mwy!

 

Edrychwn ymlaen at rannu mwy am y bartneriaeth hon gyda chi yn y dyfodol agos!