Run Wales

Gyda’r cymorth iawn …

Naw wythnos i fynd! Naw blydi wythnos i fynd cyn i fi wynebu’r her nesaf – sef y marathon Manceinion.

Daeth yr e-bost heddiw yn atgoffa fi bod yr amser yn lleihau cyn y diwrnod mawr ble byddaf unwaith eto yn rhedeg 26.2 milltir. Mae’r hyfforddiant wedi bod yn dda ers Rhagfyr. Ges i wythnos i ffwrdd o’r rhedeg ar ôl Marathon Eryri, ond mae’r ffitrwydd yn datblygu’n dda.

Rhedais mewn parkrun yn Llyn Llech Owain, ger Llanelli ble llwyddais orffen 19 eiliad tu allan i’m PB o 2014! Felly roedd popeth yn dda. Wnes i 12 miler yng nghanol Ionawr felly roeddwn ar drac. Positive Mental Attitude.

Rydym nawr 7 wythnos i mewn i’r cynllun hyfforddi sydd gen i ac mae’r holl beth wedi cael ei bwrw gan annwyd (man flu?). Stinking. Rotten. Cold. Yr esgyrn a chyhyrau yn brifo, pob sniff a thisian yn cadw fi ar ddihun yn y nos ac yn chwarae ar fy meddwl. Dros y penwythnos rydw i wedi bod yn becso am golli 20 o filltiroedd rhedeg: 6 ar fore dydd Sadwrn – heb wneud ac 14 heddiw heb wneud.

Mae’n anodd weithiau delio gyda’r pethau yma, ond ar ôl siarad gyda’n ffrindiau newydd – sef y criw blogio sydd gan Redeg Cymru – llwyddais weld bod pethau yn iawn. Bod wythnos i ffwrdd o redeg yn beth da. Amser i wella, amser i gryfhau eto. Diolch i’r grwp am helpu fi i wneud hwn, er roedd darllen am lwyddiannau rhedeg nhw yn anodd gwneud.

Y pwynt fan hyn yw bod yna cymuned o redwyr yma sydd yn blogio i Redeg Cymru sydd yn fodlon rhedeg gyda chi, siarad â chi a chynnig unrhyw help sydd angen. Nid oes rhaid i chi fod ar ben eich hunain yn becso am y run nesaf (neu am y run sydd ddim wedi digwydd!).

Os nad ydych chi wedi dechrau rhedeg eto – yna ymunwch ag un o’r grwpiau rhedeg sydd wedi dechrau. Cymerwch amser ar dudalennau Rhedeg Cymru ac edrychwch am grwp newydd o bobl . Gyda’r cymorth iawn rwy’n siwr gallwch ddechrau ar eich taith newydd o fod yn rhedwr.

Pob lwc.

View More News Stories