Sut i gychwyn…
Dyna gwestiwn! Cychwyn rhedeg, neu gychwyn blog? Dwi byth yn siŵr sut i gychwyn blog – ond dyna rywbeth i mi boeni am!
Fel o’n i’n dweud yn fy mlog cyntaf, mae perthynas fi efo rhedeg wedi bod yn un o gychwyn, stopio….ail-gychwyn, stopio eto…rhoi dipyn bach o bwysa ar (*ahem*, Dolig!!!), cychwyn eto…ayyb ayyb! Erbyn hyn, dwi’n meddwl ei fod yn deg dweud fy mod i’n dipyn bach o “expert” ar gychwyn rhedeg!
Dwi di gofyn i fi fy hun pam bod fi wastad yn methu troi rhedeg i mewn i arferiad go iawn, sydd yn mynd i barhau i mi am byth. Dwi’n meddwl mai fy mhroblem fwyaf yw bod fi erioed ‘di cychwyn rhedeg efo cynllun. Fel mae’r dywediad yn mynd “Fail to prepare, prepare to fail!”
A dwi’n siŵr bod hyn yn ddigon i roi rhywun off rhedeg am byth – angen cynllun?! Go wir?! Wel, ia ac na! Pam dwi’n sôn am gynllun, dydw i ddim yn sôn am “Lorraine Kelly’s five week weight loss plan” – na dim byd felly!! Dwi jest yn sôn am gynllun sy’n gweithio i fi – cynllun personol i gadw fi ‘on track’ fel petai. Dwi jest yn un o’r bobl ‘ma sydd angen cynllun, rhywbeth i anelu am. Neu rywun i weiddi arna’i!
Ma pawb hefo rheswm gwahanol i gychwyn rhedeg; y tro cyntaf nes i gychwyn, roeddwn i’n trio dod dros colled yn y teulu. Roedd yr amser allan yn rhedeg yn amser i mi sortio fy mhen, a rhoi’r byd yn ei le – heb unrhyw un i anghytuno hefo fi! Ond be ddigwyddodd oedd – nes i jest rhedeg, rhedeg, rhedeg, a rhedeg dipyn bach mwy ac ôl tair i bedair wythnos, doeddwn i ddim yn siŵr lle roeddwn i’n mynd hefo’r holl redeg ‘ma! Yn bendant, oni’n fwy heini, yn teimlo dipyn bach yn gryfach, ond eto yn gofyn i mi fy hun… be nesa i gadw fy niddordeb?! A dyma pryd nes i sylweddoli bod fi angen cynllun!
Be ma cynllun yn edrych fel felly, Gareth?
Cwestiwn da. Tydi o ddim ots sut mae’n edrych, dim ond ei fod yn gweithio i chi. Mae yna ambell beth sydd angen cadw mewn cof wrth ysgrifennu eich cynllun:
1) Byddwch yn realistig – os ydych chi’n newydd i redeg, peidiwch ag anelu am hanner marathon eto! Cychwynnwch drwy anelu i redeg yn aml, er mwyn creu arferiad. Rhywbeth fel “Dwi am redeg bob Dydd Llun, Mercher a Gwener ar ôl gwaith.”
2) Peidiwch â rhedeg yn rhy bell yn rhy sydyn. Mae’n bwysig mwynhau rhedeg, felly peidiwch â gorwneud hi! Does ddim byd yn bod hefo rhedeg am filltir yn y lle cyntaf. Unwaith eich bod chi’n gyfforddus hefo’r milltir, rhedwch am filltir a hanner. Eto, unwaith eich bod chi’n gyfforddus, rhedwch am ddwy filltir ayyb – syml eh?!
3) Hwn ydi’r un hollol amlwg – unwaith ‘da chi hefo’ch cynllun, cadwch ati! Er enghraifft, ar Ddydd Gwener cyntaf y cynllun, yr unig beth fyddwch chi eisiau gwneud ar ôl cyrraedd adra ar ôl wythnos caled o waith fydd estyn y fwydlen “Just Eat” ac archebu’r “Donner Kebab” ‘na sy’n wincian arnoch o Corfu Kebab – ond NA! Newidiwch i’ch cȋt, ac ewch i redeg! (mi gewch chi wedyn archebu eich Donner – fyddwch chi wedi gweithio amdani!)
Ar hyn o bryd, peidiwch â phoeni am amseroedd, cyflymdra ayyb – jest gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd. Dwi’n gwybod ar hyn o bryd, ac efallai yn anodd credu, ond mewn 4/5 wythnos bydd eich corff yn dechrau erfyn arnoch chi i fynd allan i redeg yn aml – fel cyffur! Coeliwch i fi! Mi fyddwch chi’n cael rhyw deimlad od, rhyw….gosfa….i fynd. A dyna pryd fyddwch chi’n gwybod eich bod chi wedi dal y ‘bug’ ar y ffordd i fod yn rhedwr!