Felly, chi eisiau rhedeg marathon?
Ers rhedeg fy mhedwaredd marathon yn Nghasnewydd dydd Sul diwethaf, rydw i wedi bod trwy cymaint o emosiynau gwahanol; mae’r cwestiynau â’r canmoliaeth oddi wrth ffrindiau a cydweithwyr heb stopio, ac ‘dw i’n teimlo’n falch iawn hefo fy record personol newydd o 4:57.
Fodd bynnag, y peth sydd wedi fy synnu fwyaf yw’r nifer o bobl sydd wedi dweud pethau ar hyd llinellau o ‘Bydden ni byth yn medru gwneud hynny’, ‘sut wyt ti’n gwneud e?’, ac ‘does dim ffordd bydden ni’n medru rhedeg marathon.’
Wel, gadewch i fi ddweud wrtho chi, rydych chi’n hollol llwyr yn medru gwneud hyn! Rwy’n sgwennu’r blog yma ar ran Rhedeg Cymru er mwyn rhannu mewnwelediad i’r profiad anhygoel o orffen marathon, mewn gobaith bydd fy stori yn rhoi hwb ac ysbrydoliaeth i rywun feddwl ‘Rwy’n gallu gwenud hwn!’
Fe ddechreuodd fy nhaith i redeg marathon ar y 3ydd o Fehefin 2012; rwy’n cofio’r dyddiad oherwydd fe wnes i gadw screenshot ar fy ffôn ô’r rhediad cyntaf yna ar Run Keeper. Fe wnes i lwyddo i rhedeg cyfanswm o 3.5km mewn 28 munud a 40 eiliad. Rwy’n cofio edrych ar hyd y llwybr ym Mharc y Rhath a dweud – ‘Mi wna i redeg i’r fainc yna’ – doedd y fainc ddim yn bellach na 400 metr i ffwrdd ond roedd hi’n teimlo fel doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu anadlu erbyn i mi gyrraedd yna. Fe wnes i barhau i ailadrodd hyn nes fy mod i’n medru rhedeg yr holl fordd o amgylch y llyn. Roedd hi’n teimlo fel bod hi’n cymryd am byth, ac mi roeddwn i’n poeni fod pawb yn edrych arnaf, roedd fy ngwyneb yn goch a chwyslyd – ond roeddwn i mor falch fy mod i wedi gallu gorffen y rhediad. Rwy’n cofio dechrau rhediad arall cwpl o wthnosau yn ddiweddarach a rhedeg yr holl fordd o amgylch y llwybr 3.5km heb stopio – ac mewn ffordd dydw i ddim wedi stopio ers y diwrnod hynny.
Fe wnes i gofnodi fy enw ar gyfer rasus 10km a hanner-marathon ac roeddwn yn eitha hapus hefo hyn am gwpl o flynyddoedd; roeddwn i wastad wedi dweud bydden i byth yn rhedeg marathon – roedd e’n rhy bell, rhy anodd ac doedd dim amser gen i…..esgusodion bydd yn gyfarwydd i unrhywun sydd wedi ceisio osgoi ymarfer corff.
Ym mis Hydref 2016, es i allan i Berlin er mwyn gwylio cwpl o ffrindiau yn rhedeg y marathon – ers y foment yna roeddwn i’n hooked, fe wylies i’r gwynebau yn fy mhasio allan ar hyd y cwrs, ac mi weles i’r cyflawniadau anhygoel â’r golwg o falchder ar gwynebau cymaint o’r rhedwyr – roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r clwb unigryw yma.
Cwpl o wythnosau’n ddiweddarach, fe wnes i gofrestru ar gyfer marathon Brighton ym mis Ebrill 2017, ac yna marathon Caeredin ym mis Mai – fe wnes i ysgrifennu plan ymarfer er mwyn dilyn trwy’r gaeaf. Roedd hi’n anodd – ni’n byw yn Nghymru, roedd llawer o dywydd oer a glaw. Roedd hi’n dywyll. Roeddwn i wedi blino. Mae rhedeg yn brifo. Ond, does dim byd arall yn medru curo’r teimlad o groesi’r llinell orffen – ac fe ges i’r teimlad yna dwywaith mewn 6 wythnos yn y gwanwyn o 2017.
Roeddwn i hyd yn oed yn fwy hooked ar y teimlad. Fe wnes i rhoi fy enw lawr am fwy o rasus. Y cam nesaf oedd i ymuno hefo clwb rhedeg cymdeithasol – y tro cyntaf i mi droi ‘lan, roeddwn i mor ofnus, o ni’n meddwl byddai pawb yn gorfod aros amdanaf gan fy mod i mor araf. Roeddwn i’n ofni’r teimlad o embaras gan rhedeg hefo pawb arall. Fe gafodd unrhyw bryderon eu ddiddymu yn sydyn iawn – pan ges i fy nghroeso hefo breichiau agored gan bawb arall!
Mae rhedeg wedi agor byd newydd i fi – yn gyntaf, rydw i wedi ennill cymaint o ffrindiau newydd. Dydw i ddim yn medru argymell grwp rhedeg cymdeithasol yn ddigon uchel, pa bynnag pellter chi’n rhedeg, mewn pa bynnag amser. Byddwch chi’n ffeindio pobl cyfeillgar, cefnogol, hwyliog sydd eisiau eich helpu a gwella eich profiad rhedeg hyd yn oed yn fwy. Rwy’n llawn credyd i’r pobl yma am barhau fy nghariad hefo rhedeg marathon.
Fe wnes i gofnodi fy enw ar gyfer marathon Barcelona a Casnewydd yn gynnar yn 2018. Roedd y teimlad o fwynhad yn cynyddu trwy’r amser wrth i mi ymarfer ar gyfer y rasus yma. Mewn bywyd ble oedd e’n teimlo fel fy mod i’n jyglo gwaith, bywyd cymdeithasol, gwaith tŷ ac fy nghi bach (French Bulldog), rhedeg oedd amser personol fy hun. Rwy’n mynd allan am oriau ar y tro, weithiau hefo ffrindiau, weithiau’n gwisgo fy nghlustffonau, ac rwy’n medru ffeindio gofod pen. Mae rhedeg yn rhoi amser i mi gweithio trwy fy mhroblemau yn fy mhen – sydd ddim yn gweithgaredd rwy’n medru gwneud yn aml iawn mewn bywyd pob dydd.
Rwy’n hoffi’r sialens sy’n dod hefo rhedeg – rwy’n berson sydd wastad wedi gwthio fy hun i gyflawni rhywbeth. Roedd gweld y canlyniadau yn dod ar ôl yr holl waith caled yn deimlad pleserus iawn. Mae rhedeg marathon yn helpu dangos eich cryfder – bydd amseroedd pan chi eisiau stopio – ond chi ddim – chi’n gwthio trwy’r poen a’r blinder er mwyn cael beth rydych chi eisiau – gwers sydd hefyd yn medru cael ei gymhwyso i fywyd pob dydd.
Nawr fy mod i’n gwybod bod gorffen marathon yn bosibilrwydd, roeddwn i eisiau gweld beth arall oedd yn bosib – beth yw gwir gallu fy nghorff? Yn ystod y misoedd cynnar o 2018, fe wnes i ymarfer yn fwy caled, ond nid cymaint fel fy mod i’n colli’r mwynhad. Fe wnes i edrych ar beth oeddwn i’n bwyta ac fe wnes i hyd yn oed torri ‘nol ar alcohol! Fy gymerais i 50 munud oddi ar fy record personol ym marathon Barcelona, a 6 munud mwy yn Nghasnewydd. Roedd y gwaith caled â’r aberth yn werth chweil yr eiliad fe wnes i groesi’r llinell orffen ac roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi cyflawni beth roeddwn i eisiau!
Felly – mae rhedeg yn wych – mae’n helpu eich gwneud yn fwy iachus, mae’n rhoi fwy o wydnwch i chi, mae’n eich galluogi i gael amser a gofod pen, ac yn eich cysylltu hefo pobl o’ch gwmpas. Dal ddim yn credu eich bod chi’n medru cyflawni hyn? Gadewch i mi orffen gan ddweud nid ydw i’n athletwraig naturiol. Rwy’n bwyta gormod o takeaways ac yn yfed gormod o prosecco. Dydw i ddim yn ymarfer am oriau pob wythnos. Does gen i ddim hyfforddwr ac rwy’n creu rhaglen ymarfer fy hun gan ddarllen pethau ar y rhyngrwyd ac hefo help yr Arweinwyr Rhedeg ffantastig yn fy nghlwb rhedeg cymdeithasol. Rydw i wedi mynd o fod allan o wynt ar ôl rhedeg 400m, i allu rhedeg 26.2 milltir ac dal i fod yn medru cerdded y diwrnod nesaf! Os ‘dw i’n gallu gwneud hyn – mae unrhywun yn gallu!
Clywch mwy am stroi Sophie gan ddilyn ei blog fan hyn neu gan ei ddilyn ar Twitter @Sophie_runs