Ia, teitl odd i blog am redeg! Mae yna esboniad, dwi’n addo…!
Yn ddyddiol, y peth cyntaf dwi’n gwneud ar ôl deffro ydi ymestyn, gafael ar bâr o sbecs, a’i gwisgo. Yn anffodus, dwi’n gorfod gwisgo sbecs i wneud bob dim; gyrru, darllen, gwylio teledu, a defnyddio ffon symudol. Ond yn anffodus, dwi jest ddim yn gallu gwisgo sbecs tra bod fi’n rhedeg! Dwi’n meddwl mai’r broblem ydi’r ffaith mod i’n casáu’r ffordd ma’ nhw’n bownsio i fyny ac i lawr ar fy nhrwyn!
Pan dwi yn mynd allan am rediad, dwi ddim felly yn gwisgo fy sbecs nac ychwaith contacts, felly ma na bethau…diddorol iawn yn digwydd imi…pethau fysa ddim yn digwydd os fyswn i’n gallu gweld yn iawn! (pan dwi ddim yn gwisgo sbecs, mae bob dim yn y byd dipyn bach yn llai a manylion bob dim ar goll braidd! Mae’n debyg i fynd o wylio teledu diffiniad uchel (hefo sbecs), i wylio hen deledu CRT o’r 80au).
Fyddai yn aml yn trio rhedeg ar lwybrau troed distaw, ar hyd lonydd beics, a ffyrdd distaw. Yn amlwg, dwi’n gorfod rhedeg trwy giatiau, ac un o’r problemau fwyaf dwi’n gael ydi bod fi a) methu gweld ddigon pell a b) dwi ddim felly yn gwbod pa ffordd mae’r giât yn agor – ydw i fod i fynd i’r dde, neu’r chwith ydi’r gait yn agor am fewn eu allan?! Dwi’n siŵr eich bod chi’n deall hyn yn iawn, ond pan yr ydych chi yng nghanol rhediad, da chi’n dueddol o gyrraedd “stride” da a rhythm cyffyrddus a’r peth diwethaf da chi isio bod yn gwneud pan yn y rhythm ydi “ffymblan” o gwmpas yn trio gweithio allan lle ma’r giat a pha ochr y mai’n agor. Yup – mae’r dasg syml o agor giât yn trio’n job anferthol ac eitha embarrassing!
Dwi ddim yn un am stereoteipio chwaith, ond pan ma’n dod i grwpiau o bobl ifanc su di ymgasglu o gwmpas dre -dwi ddim yn ffan at the best of times…. ond yn fwyfwy pan dwi’n rhedeg ac yn enwedig pan dwi’n gorfod rhedeg trwy eu canol tra’u bod nhw’n ar y pafin neu’n ystelcian yn amheus mewn llefydd dwisho mynd. Fues I allan yn hwyr un prynhawn am rediad ar y promenâd. Roedd yr haul wrthi’n machlud, a’r golau dydd yn dechrau gwywo. Oni tua 4k mewn i’m rhediad 5k, ac o’m mlaen , welais grŵp o’r bobl ifanc ‘ma – a doeddwn i jest ddim yn ffansio rhedeg heibio nhw ar y pafin (erbyn hyn, mae’n siŵr bod fy wyneb i’n llosgi’n goch, a fy mod ‘di gwlychu hefo chwys – beautiful!), so nes i groesi’r lôn er mwyn pasio nhw. Erbyn cyrraedd cyferbyn a’r grŵp o bobl ifanc, edrychais drosodd (hynny oni’n weld) i weld bod fi wedi croesi’r lôn yn iawn ac wedi eu hosgoi, ond yn anffodus nes i ddim osgoi un o’r blychau post mawr coch ‘na! Yup – bywyd mewn diffiniad isel!
Nid dyna’r tro cyntaf i rywbeth gwirion digwydd tra bod fi allan heb fy trusted specs. Roeddwn I allan ar 10k yn rhedeg o Rhyl I Ruddlan ac yn ôl. Oni’n meddwl bod fi’n rhedeg yn eithaf da – so ges i gip olwg sydyn ar fy nghyflymder – 11:30 munud y filltir. Oh….eeerrrrmmmm, reit; fel arfer dwi’n gallu cadw i gyflymder dan 10 munud y filltir, so pam mor araf?! Oce, amser codi cyflymder felly! So, es i amdani a gwthio ychydig bach mwy. Ar ôl dau neu dri munud, ges i gip olwg arall…11:34 munud y filltir! Be?! Sut ar y ddaear?! O’n i wir ddim yn hapus hefo hwn – so nes i wthio unwaith eto; roedd hi’n amser gwella fy nghyflymder! Ar ôl cwpl o funudau arall, nes i checio beth oedd fy nghyflymder eto…11:39 munud y filltir?!?!?! Be….Sut….ah, dal ar… wrthgwrs o ni di bod yn edrych ar yr amser go iawn, ac nid fy nghyflymder! Doh! Yr unig beth da am y bennod yma oedd bod cyflymder fi dros y 10k yma yn wych (i fi eniwe…), tua 9:18 munud y filltir!
Lle mae’r “Ffatri” yn dŵad o felly?! Yr wythnos wedyn, roeddwn i allan eto ar 10k i Ruddlan ac yn ôl. Dim ond dau neu dri o weithiau oeddwn i wedi rhedeg y cwrs yma, a doeddwn erioed ‘di bod ffordd yma yn gwisgo fy sbectol (felly ddim yn gyfarwydd iawn â’r ardal mewn “diffiniad uchel” neu “normal” i ran fwyaf o bobl!). Felly wrth ddŵad rownd y gornel i ddarn eithaf hir a syth o lwybr beicio nesi sylweddoli ar ffatri nad oeddwn di weld erioed o’r blaen. Roedd mewn ardal eithaf gwledig, braf a distaw a doeddwn i erioed wedi clywed bod yna ffatri yna. Eniwe, fel oni’n son yn gynharach dwi’n eithaf newydd i’r ardal, felly dwi’n darganfod pethau newydd trwy’r amser – a weithia dwi’n darganfod pethau dwywaith – un mewn HD hefo fy specs a llall mewn ffordd lot lai gweladwy! Felly to ma wrth wisgo fy sbecs cefais fy nhwyllo gan fy llygaid fy hun… dim ffatri oedd yna nac i, ond bont ffordd osgoi Rhuddlan dros yr Afon Clwyd.
Felly pa dwi ddim yn gwisgo fy sbecs dwi ddim yn gweld petha – blycau post, gaiatiau ayyb – sy’n her a hanner. Ond wedyn pan dwi’n gwisgo nhw dwi’n gweld petha sydd ddim yna! Dwi’m yn siwr pa un sy’n well….
Dyma roedd y camera yn ei weld!
Dwi’n addo – o bell, efo llygaid bach i, Ffatri anferth oedd o!
Dyma oedd yr olygfa i’r cyfeiriad arall gyda llaw – hyfryd!
[:cy]