Run Wales

Pwrpas rhaglen Rhedeg Cymru yw cynyddu cyfleoedd rhedeg cymdeithasol a chyfleoedd i redeg am ddim ledled Cymru. Ers 2015 mae Rhedeg Cymru wedi gweithio gyda parkrun er mwyn cyflawni hyn ac wedi helpu i ariannu a chefnogi digwyddiadau. Gwelwyd nifer y digwyddiadau’n cynyddu o 9 yn 2015 i 41 ar ddechrau 2018. Ers 2016, mae’r niferoedd sy’n cofrestru i gymryd rhan wedi cynyddu o 62,000 i fwy na 110,000.

Bydd yr ymroddiad yn parhau yn 2018 gyda 7 digwyddiad newydd ar y gweill yn y flwyddyn sydd i ddod, ac ymroddiad i ariannu cyfanswm o 10 digwyddiad newydd eleni. Gallai hyn gynyddu nifer y digwyddiadau i 58, ac mae potensial o gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan i 150,000.

Meddai Pennaeth Gweithrediadau Athletau Cymru, James Williams, “Ein nod yw cael 400,000 o oedolion yng Nghymru i redeg yn rheolaidd. Rydym ni’n edrych ymlaen at ddal i weithio gyda parkrun, Chwaraeon Cymru a’n partneriaid eraill eleni a thu hwnt er mwyn sicrhau hynny.”

Dewch o hyd i’ch parkrun agosaf yma

Dim parkrun yn eich ardal chi? Be am sefydlu un?

taflen awgrymiadau i ddarganfod mwy am sefydlu parkrun

Eisiau cymorth ariannol ar gyfer eich parkrun?

Mae Rhedeg Cymru wedi ariannu 14 parkrun  yng Nghymru ers 2014, a gyda rhagor o gyllid ar gael i sefydlu mwy o parkruns beth am gysylltu â ni i gael eich parkrun yn eich cymuned chi.

Related Posts