Run Wales

Do you run in the workplace?

Er mwyn cefnogi ein nod o gael pob oedolyn yng Nghymru i redeg rydym yn y broses o ddatblygu pecyn ar gyfer gweithleoedd fydd yn adnodd i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr i sefydlu grwpiau rhedeg eu hunain o fewn y byd gwaith – a’r gwirionedd yw; rydym yn treulio llawer iawn o amser yno felly be’ am i ni neud rhywbeth yn ei gylch?

Nid oes modd dadlau’r effaith gadarnhaol mae staff iach ac hapus yn gael ar fusnesau, o ganlyniad rydym yn datblygu’r pecyn hwn mewn partneriaeth â Chymru Iach ar Waith.

Er mwyn cefnogi’r pecyn hwn hoffem glywed gan fusnesau yng Nghymru sy’n cefnogi grwpiau rhedeg, gan unigolion o fewn y busnesau hynny sydd wedi sefydlu grŵp eu hunain, neu gan y rhai sydd wedi ymuno a grŵp yn y gweithle er mwyn rhannu ymarferion da gyda busnesau eraill ledled Cymru.

Felly os ydych chi’n gyflogwr yng Nghymru sy’n annog staff i redeg yn ystod amser gwaith? Neu’n weithiwr cyflogedig sy’n rhedeg gyda chydweithwyr eraill amser cinio, cyn neu ar ôl gwaith? Yna rydym eisiau clywed gennych!

Cysylltwch â ni drwy Facebook / Twitter / Instagram neu drwy e-bost.
rebecca@welshathletics.org neu ewch i’n gwefan irun.wales

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.