Run Wales

Hannah V Marathon Llundain

Mewn cymaint o ffyrdd Hannah yw’r ‘cwci cryfa’ ‘da ni’n ‘nabod, a does ond angen i chi ddilyn ei blog neu godi ei e-lyfr ‘No Run Intended’ i ddod i wybod hyn.
Ond Dydd Sul nesaf (24ain Ebrill) bydd Hannah yn profi caledwch mewn ffordd gwbl newydd pan fydd hi, ynghyd â thua 36,000 o redwyr eraill, yn taclo Marathon hanesyddol Llundain ar gyfer yr elusen Bliss.

Nawr, er mwyn dangos i Hannah pa mor falch yr ydym o’i chyflawniadau hyd yma, credem y byddai’n wych pe tai cynifer ohonom â phosibl yn #RhedegGydaHannah y Sul hwn. Nawr peidiwch â mynd i banig llwyr, nid yw hyn yn golygu neidio ar fws i Lundain gyda’ch ‘trainers’ ‘mlaen ar gyfer y 26.2 milltir. Yr hyn yr hoffem i chi ei wneud yw neilltuo eich rhediad y Sul hwn i Hannah a phob aelod arall o gymuned Rhedeg Cymru sydd yn ymgeisio’r pellter enfawr.

‘Sut yn union mae gwneud hyn?’ Rwy’n clywed chi’n gofyn…

Yn syml, profwch i ni drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol (unai Trydar, Facebook neu Instagram) eich bod wedi rhedeg y diwrnod hynny, gan ddefnyddio’r hashnod #RunWithHannah / #RhedegGydaHannah a thagio llun neu gofnod o’ch rhediad.

‘Ar wahân i gefnogi Hannah a nifer helaeth o rhedwyr dewr eraill o gymuned Rhedeg Cymru sydd cymryd rhan ddydd Sul, beth sydd ynddo i mi?’

Yn ogystal a’r ymdeimlad enfawr o falchder byddwch yn teimlo wrth redeg a chefnogi eich cyd-redwyr, byddwch hefyd yn cael eich cynnwys yn ein cystadleuaeth i ennill un o’n 3 fagiau nwyddau Rhedeg Cymru- mae pob un ohonynt yn cynnwys crysau-t Rhedeg Cymru sydd wedi eu llofnodi gan enillydd Marathon Llundain, Paula Radcliffe!

Pob lwc – a mwynhewch !!