Run Wales

Ydw i’n gallu rhedeg? Can I run?

Tua tair wythnos yn nol dechreuais grŵp cerdded i redeg newydd yn ardal Bae Caerdydd / Penarth.

Cyn i’r grŵp gychwyn rhedeg gyda’i gilydd (cyn iddynt gwrdd hyd yn oed) ges i nifer o negeseuon gan y merched (er fod y cwrs ar agor i ddynion hefyd!) yn poeni am ddechrau ac yn holi am eu gallu ac ati.

“Ydw i am allu neud hyn?”

“Dwi’n poeni y byddai’n gadael pawb i lawr”

“Dwi erioed wedi rhedeg”

“Beth os dwi’n rhy araf?”

Ac ers i mi ddechrau rhedeg gyda rhedwyr ‘newydd’ dyma’r pryderon dwi’n clywed tro ar ôl tro. Pryderon sy’n hollol naturiol i fod yn onest – ond dwi’n deud hyn o brofiad – wir does dim rheswm i boeni yn enwedig os ydych i am gychwyn eich rhedeg gyda grŵp, dim rheswm o gwbl.

7 merch sydd yn rhan o’r grŵp hwn – dwi ddim yn siŵr lle mae’r dynion – ond eu colled nhw! Dwi’n teimlo’n hynod lwcus hefo’r merched yma. Mae pob un ohonynt yn gyfeillgar, brwdfrydig, cefnogol ac yn barod i roi cant y cant – ac mai’n fraint cael eu harwain.

Mae’r tri sesiwn yr ydym wedi ei gael hyd yma wedi bod yn llawer o hwyl; dan ni’n siarad am fwyd, darbwyllo ein hunain ein bod yn rhu ‘sâl’ er mwyn osgoi sesiynau (hahaha), a bywyd pob dydd ac erbyn i ni droi rownd mae’r sesiwn drosodd!

Felly, os ydych chi’n meddwl ymuno a grŵp rhedeg, gwnewch o! Wir yr, wnewch chi ddim difaru – ond peidiwch â chredu fi, dyma beth mae’r merched yn y grŵp wedi dweud am eu profiadau nhw;

“Doedd gen i ddim diddordeb mewn rhedeg a doeddwn ni erioed wedi meddwl baswn i’n ymuno a grŵp, ond ers dechrau dwi wedi synnu ar faint dwi’n mwynhau’r rhedeg a faint dwi’n mwynhau cwmni gweddill y grŵp.” Tracey

“Roeddwn i’n nerfus i ddechrau rhedeg ac o hyd yn dweud pethau  fel – ‘dwi methu rhedeg’, achos dyna sut oeddwn i’n teimlo. Rŵan dwi mor falch fy mod ac wedi ymuno a’r grŵp. Mae’n wych faint o gymhelliant mae rhedeg mewn grŵp yn rhoi imi, ac mae wedi bod yn grêt cwrdd â phobl newydd! Dwi mor hapus hefo be dwi wedi llwyddo i’w neud yn barod – dwi mor hapus a balch. Mae cael strwythur i fy rhedeg wedi helpu lot fawr hefyd.” Rachel B

“Doeddwn i ddim wedi neud ymarfer corff am sbel, felly roeddwn i’n nerfus cyn dechrau, ond esboniodd Rebecca beth oedden ni am neud a sicrhaodd fi. Dwi’n teimlo fy mod i wedi llwyddo gymaint yn barod a dwi wedi synnu ar faint dwi wedi gwneud! Dwi mor hapus fy mod i wedi cyrraedd y pwynt yma.” Rachel D

Dwi’n edrych ymlaen at weld sut mae pawb yn datblygu dros yn wythnosau nesaf.

Bx

View More News Stories