Run Wales

Rhedeg Cymru yn cefnogi Movember 2016

Boneddigion a boneddigesau. Yn draddodiadol mae Mis Tachwedd yn fis ble rydym yn canolbwyntio ar faterion iechyd dynion.  Mae Mis Tachwedd yn fis yr ydym i gyd yn ymwybodol ohono, yr adeg honno o’r flwyddyn pan yr ydym i gyd yn dathlu mawredd y mwstas!

Ond yn anffodus, (yn ddibynnol ar sut yr ydych yn edrych arno) nid pawb sy’n medru tyfu mwstas felly i sicrhau fod pawb yn medru cymryd rhan yn yr ymgyrch, rydym wedi dod o hyd i her dra wahanol sydd am gael pawb yng Nghymru i symud ychydig bach mwy drwy gydol y mis! Croeso i #MoveWales

Challenge

Nod #MoveWales yw codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd sy’n wynebu dynion wrth wneud rhywbeth da ar gyfer eich iechyd eich hun yn y broses, a does dim i ddweud na allwch chithau godi arian a chael lot fawr o hwyl yn y broses.

Darganfyddwch sut y gallwch godi arian drwy ymweld Movember UK

Yr ydym yn fwy na pharod i chi addasu’r her 30 diwrnod i’ch siwtio chi, eich teulu a’ch ffrindiau, gan fod angen iddynt hwy gymryd rhan hefyd!

Mi fyddem yn rhoi rhywfaint o gymhelliant ychwanegol i chi ar hyd y ffordd drwy ein cyfryngau cymdeithasol – dewch o hyd i ni ar Twitter, Instagram a Facebook, a byddwch yn rhan o’r sgwrs gan ddefnyddio’r #hashnod #MoveWales

Pob lwc!