Rydym yn ymwybodol o fanteision rhedeg mewn grŵp yn barod, ac mae gennym ni dros 70 o grwpiau rhedeg anffurfiol a chymdeithasol sy’n cynnal sesiynau difyr, cyfeillgar a chefnogol i bob rhedwr dros y wlad.
Fodd bynnag, mae’n bosib na fydd modd ichi ddod o hyd i ddarpariaeth yn eich ardal ac y byddech yn hoffi sefydlu eich grŵp rhedeg cymdeithasol eich hun. Os felly, gallwn eich helpu…
Y cwestiwn cyntaf i’w ofyn i chi eich hun yw ‘alla i ysbrydoli eraill i redeg?’
Rydym ni’n credu, os ydych chi:
- wrth eich bodd yn rhedeg ac eisiau rhannu eich mwynhad gyda phobl eraill
- yn rhan o sefydliad cymunedol sy’n gweld budd annog ffitrwydd, gweithgaredd a mwynhad drwy gerdded, loncian a rhedeg
- yn rhan o glwb athletau, ac eisiau trefnu darpariaeth addas i bobl sy’n dechrau arni yn eu hardal neu eisiau denu aelodau newydd
- yn unigolyn, yn grŵp o ffrindiau neu’n gydweithwyr sy’n cael lles a mwynhad o redeg ac eisiau rhannu hynny gydag eraill
- yn rhywun fyddai’n hoffi rhedeg gydag eraill
Gallech chi fod yr unigolyn perffaith i sefydlu grŵp rhedeg a rhannu eich brwdfrydedd a’ch cariad tuag at redeg gydag eraill!
Cysylltwch â ni er mwyn clywed mwy am sut y gallwn eich helpu