‘Does dim dwywaith na fydd rhedeg gyda ffrind neu mewn grŵp yn eich gwneud yn rhedwr gwell – mae manteision rhedeg mewn grŵp yn enfawr! Wrth gwrs, mae adegau pan fo’n well rhedeg eich hun, ond mae manteision anhygoel i redeg gydag eraill hefyd.
Dyma rai buddion i chi eu hystyried:
Atebolrwydd
Mae grwpiau rhedeg yn rhoi teimlad o gyfrifoldeb i chi pan fo’r llais bach yn eich pen yn ceisio eich perswadio i aros yn y tŷ a swatio ar y soffa! Pan fo eraill yn dibynnu arnoch chi, rydych chi’n llawer mwy tebygol o wneud ymdrech i fod yno.
Cysondeb
Un o’r ffyrdd gorau i ddod yn rhedwr gwell yw rhedeg yn amlach. Bydd cynnal grŵp rhedeg rheolaidd, wythnosol (neu ddyddiol mewn rhai achosion) yn helpu i sicrhau eich bod yn dal ati i redeg, nid yn unig ar ddyddiau heulog gogoneddus yr haf ond ar y nosweithiau tywyll, oer y gaeaf pan fo’n anos byth mentro allan!
Ysgogiad
Mae rhedeg gyda grŵp yn ysgogiad mawr gan fod rhywun yno i roi hwb i chi BOB AMSER a’ch annog i guro eich amser gorau! Mae cael cyngor ac awgrymiadau newydd a’u gweld yn gweithio’n ysgogiad mawr ac mae modd i bobl mewn grŵp rannu eu profiadau a’u gwybodaeth gyda chi – doethineb ar y cyd.
Hyrwyddiad Cymdeithasol
Mae rhywfaint o fudd seicolegol i redeg mewn grŵp. Mae Hyrwyddiad Cymdeithasol neu effaith cynulleidfa yn derm seicoleg sy’n golygu “perfformiad gwell o ganlyniad i ddim ond presenoldeb eraill”. Yn ôl Cindra Kamphoff, Ph.D, wrth redeg gyda grŵp, “Rydych chi’n cael eich cario gan y cyflymder ac mae’n bosibl na fyddwch chi’n sylweddoli pa mor gyflym yr ydych chi’n mynd.” Mae eich ymennydd yn eich annog i redeg gyda phawb ar adeg pan allech chi fod wedi arafu ar eich pen eich hun. Felly mae rhedeg gydag eraill yn creu cyffro sy’n eich helpu i redeg yn gynt nag yr oeddech chi’n feddwl oedd o fewn eich gallu.
Ond, er bod rhedeg mewn grŵp yn cynnig y manteision uchod i gyd – mae’n ffordd ddi-ffael hefyd o wneud ffrindiau newydd!