Run Wales

Rhedeg Cymru yn cefnogi #SgwadNi i annog fwy o ferched i fod yn egnïol

Mae Athletau Cymru drwy eu rhaglen Rhedeg Cymru sydd yn bodoli i gefnogi, annog ac ysbrydoli unigolion i redeg ledled Cymru, yn cefnogi ymgyrch diweddar ‘Sgwad Ni’ – menter gan Chwaraeon Cymru i ddathlu, annog a grymuso merched yng Nghymru i ddod yn egnïol ac i ddal ati i fod yn egnïol.

 

Athletau Cymru yw’r sefydliad diweddaraf i leisio ei gefnogaeth yn gyhoeddus i ymgyrch Chwaraeon Cymru, gan ymrwymo i helpu i gynyddu nifer y merched a’r genethod sy’n dod yn egnïol ar adeg pan mae ymchwil yn dangos bod llai o ferched yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu hamdden gorfforol o gymharu â’u cyfoedion gwrywaidd.

 

Bydd Sgwad Ni – ymgyrch ar gyfer merched o bob oed yng Nghymru, dim ots beth yw lefel eu ffitrwydd, eu gallu neu’r pa weithgaredd maent yn ymgymryd â, yn ceisio uno rhaglenni ar gyfer merched a genethod ac fe fydd platfform iddynt gael y gefnogaeth gan sgwad o lysgenhadon o bob cwr o Gymru.

Yn ogystal ag ymuno â’r sgwad, un o amcanion pennaf rhaglen Rhedeg Cymru, yw darparu’r cyfle, annog a chefnogi genethod a merched i fod yn egnïol drwy redeg gyda’i ffrindiau ac mewn grwpiau ledled Cymru.

Dywedodd Sioned Jones, Rheolwr Rhaglen Rhedeg Cymru  “Mae’n hynod galonogol gweld ymgyrch o’r fath yn cael ei lansio gan Chwaraeon Cymru ac rydym yn falch iawn o’i gefnogi a gweithio ochr yn ochr i helpu cyrraedd y nod gyffredin o gael mwy o ferched yn egnïol.  Mae Rhedeg Cymru yn barod yn cyd-weithio a nifer o bartneriaid er mwyn cynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd cerdded i redeg saff, hwyliog a chefnogol i enethod a merched  ar draws Cymru.  Yn barod, o’r 100 grwpiau cymdeithaso sydd wedi cofrestru gyda ni, mae oddeutu 30 ohonynt yn benodol ar gyfer merched – fe all hyn fod gymaint yn fwy.

Bydd ymgyrch Sgwad Ni yn dod â straeon unigryw merched o wahanol gefndiroedd, o bob cwr o Gymru, yn fyw. Mae bob un ferch/eneth gyda’u rheswm eu hunain dros ddod yn fwy egnïol yn gorfforol ac yn ystod yr ymgyrch fe fydd Pencampwyr Rhedeg Cymru yn cyfrannu eu straeon a’u profiadau i ysbrydoli eraill i fod yn fwy egniol.  Felly byddwch yn wyliadwrus ohonynt!”

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Rydyn ni’n hynod falch o gael croesawu Athletau Cymru drwy Raglen Rhedeg Cymru i’r sgwad! Ni fyddem yn gallu cyrraedd nac ysbrydoli cymaint o ferched a genethod ledled Cymru heb eu cefnogaeth. Mae rhwydwaith o ferched a genethod yn bodoli’n barod sy’n mynd i’r afael â phob un o’r rhwystrau sy’n atal mwy rhag bod yn egnïol, a thrwy raglenni fel Rhedeg Cymru a Sgwad NI, medrwn uno’r merched yma a sicrhau eu bod yn dod ag eraill gyda nhw ar y daith.”

Gwahoddir merched a genethod sydd eisiau bod yn rhan o Sgwad Ni neu fod yn llysgennad yn eu hardal i hoffi tudalen Sgwad Ni ar Facebook ac i ddilyn cyfrifon yr ymgyrch ar Twitter, Snapchat ac Instagram.

 

Twitter: @oursquadcymru                          Facebook: www.facebook.com/oursquadcymru  

Instagram: @oursquadcymru                     Snapchat: oursquadcymru

 

Os ydych chi’n rhedeg grŵp i ferched neu enethod, neu eisiau gwybodaeth am sut i gymryd rhan a bod yn rhan o ‘Sgwad Ni’, ewch i www.oursquad.cymru.