Run Wales

Become a Run Champion!

Fel Hyrwyddwr Rhedeg Cymru, byddwch yn hyrwyddo cyfleoedd rhedeg cymdeithasol yn eich ardal.

Yn ddelfrydol, bydd angen i chi fod yn:

  • frwdfrydig am redeg a eisiau rhannu eich profiad a’ch gwybodaeth gyda newydd-ddyfodiaid i’r gamp
  • gallu cyfathrebu ag amrywiaeth ar unigolion
  • adeiladwr tîm da
  • deall manteision rhedeg yn gymdeithasol (hamddenol) a phwysigrwydd darparu cyfle i bawb.
  • Arweinydd sydd wedi ei gymhwyso yn Arweinyddiaeth mewn Rhedeg ar gyfer Ffitrwydd (LiRF)

Beth fyddwch chi’n ei wneud:

  • cefnogi ac annog unigolion i ymuno â neu ffurfio grwpiau rhedeg cymdeithasol yn y gymuned.
  • rhannu amcanion Rhedeg Cymru yn nigwyddiadau- lleol megis 10K   Caerdydd, Hanner Marathon Caerdydd ayyb.
  • yn argymell cymhwyster LiRF ac adnabod hyrwyddwyr lleol i ddod yn     Arweinwyr Rhedeg
  • ysbrydoli a chymell unigolion i ymuno â’r rhwydwaith Rhedeg Cymru am   gefnogaeth.
  • sefydlu rhestr o gyfleoedd rhedeg yn yr ardal ar gyfer cyfranogwyr
    annog mwy o bobl i fod yn Hyrwyddwyr Rhedeg Cymru

Faint o amser fydd yn ei gymryd?

Bydd y rôl hon, yn y rhan fwyaf o achosion yn cymryd rhwng 1-2 awr yr wythnos, yn bennaf yn y nos ac ar benwythnosau, gydag amser ychwanegol os bydd mynychu digwyddiadau penodol. Beth fyddwch chi’n ei gael allan ohono? Cewch foddhad o wybod eich bod yn ysbrydoli, cefnogi a chymell unigolion, na fyddai’n cyfranogi fel arfer, i gymryd rhan mewn chyfleoedd cerdded, loncian a rhedeg yn eich cymuned.

Byddwn yn rhoi i chi;

• Crys-t Arweinwyr Rhedeg Cymru
• Cefnogaeth gan dîm Rhedeg Cymru
• Mynediad i adnoddau

 

A oes diddordeb gennych?  Os felly cysylltwch a ni…