So, dyma fy mlog cyntaf! Pam ydw i di cytuno i gychwyn blogio? I fod yn hollol onest – er mwyn rhoi’r “wmf” i mi gario ‘mlaen i redeg!
A dyna rili ydi perthynas fi hefo redeg – dwi wastad yn cychwyn ac yn stopio, cychwyn a stopio, a dwi di ddefnyddio pob esgus dan yr haul i beidio â rhedeg (rhy gynnes, rhy oer, plant, gwaith, di bwyta gormod, heb fwyta gormod, heb gael potel o Lucozade…ma’r rhestr yn un hir!)…ond dwi di ddysgu un wers eithaf anodd ei dderbyn dros y blynyddoedd. Os nag ydw i’n rhedeg, na’i ddim rhedeg, a does gynna’i neb i feio ond fi.
Ond – mae yna obaith! Ychydig yn llai na dwy flynedd yn ôl, nes i lusgo’r corff ‘ma i fynnu i Gaeredin, a neshi rhedeg hanner marathon mewn ychydig dros ddwy awr (2:03:10). Ddim yn rhy ddrwg!
A dyna di’r peth dwi hoffi fwya’ am redeg, mae o’n weithgaredd digon hawdd i gychwyn – does dim angen offer hynod arbennig. Ydi, mae o yn bosib gwario cannoedd ar offer, ond er mwyn dechrau, does dim ond *angen* pedwar peth:
- Pâr o trainers go lew (maen nhw YN gwneud gwahaniaeth)
Nes i dalu tua £35 am fy hoff bâr. - Pâr o siorts (neu “joggers”)
- Crys t. Newydd….hen….dim ots.
- Gwaith caled.
Ia, sori – dwi’n gwybod bod pawb wedi clywed hyn o’r blaen, ond dyna di’r gwir. Mae angen llwyth o waith caled, ond ar ddiwedd y dydd, mae o werth yr ymdrech.
Dydw i ddim yn rhedeg efo clwb, a dydw i ddim yn rasio yn aml chwaith. Dwi’n rhedeg rhan fwyaf o’r amser ben bore, cyn gwaith, cyn i fi ddeffro go iawn, a sylweddoli be sy’n digwydd. Erbyn cyrraedd yn ôl, yfed peint o ddŵr a dal fy ngwynt, dwi bron di anghofio ‘mod i di bod allan.
Dwi’n rhedeg er mwyn cadw’n heini, er mwyn cadw’r pwysa i ffwrdd (ond ma Dolig yma di dal gafael go iawn arna’i!), ac oherwydd pan dwi yn rhedeg, dwi’n teimlo’n hapusach. Pam fydda’i wedi cael diwrnod anodd yn gwaith, fydda’i yn aml yn rhedeg er mwyn gallu gwneud dipyn bach o “ffeilio meddyliol” – i mi gael mynd dros bob dim sydd wedi digwydd yn ystod y diwrnod a rhoi pob dim yn ei lle. Coeliwch neu beidio, fel arfer, fydda’i di ymlacio mwy ar ôl rhedeg na cyn mynd.
Os ydych chi’n eistedd yna yn ystyried os ddylech chi ddechrau rhedeg, mae gen i un cwestiwn i chi – pam ddim? I fod yn hollol onest, does yna ddim rheswm i beidio; felly, dwi’n annog chi i wisgo’ch trainers, a rhedwch i ben y stryd ag yn ôl. Dyna fo – y rhediad cyntaf wedi’i chwblhau!