Fel Hyrwyddwr Rhedeg Cymru, byddwch yn hyrwyddo cyfleoedd rhedeg cymdeithasol yn eich ardal.
Yn ddelfrydol, bydd angen i chi fod yn:
- frwdfrydig am redeg a eisiau rhannu eich profiad a’ch gwybodaeth gyda newydd-ddyfodiaid i’r gamp
- gallu cyfathrebu ag amrywiaeth ar unigolion
- adeiladwr tîm da
- deall manteision rhedeg yn gymdeithasol (hamddenol) a phwysigrwydd darparu cyfle i bawb.
- Arweinydd sydd wedi ei gymhwyso yn Arweinyddiaeth mewn Rhedeg ar gyfer Ffitrwydd (LiRF)
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
- cefnogi ac annog unigolion i ymuno â neu ffurfio grwpiau rhedeg cymdeithasol yn y gymuned.
- rhannu amcanion Rhedeg Cymru yn nigwyddiadau- lleol megis 10K Caerdydd, Hanner Marathon Caerdydd ayyb.
- yn argymell cymhwyster LiRF ac adnabod hyrwyddwyr lleol i ddod yn Arweinwyr Rhedeg
- ysbrydoli a chymell unigolion i ymuno â’r rhwydwaith Rhedeg Cymru am gefnogaeth.
- sefydlu rhestr o gyfleoedd rhedeg yn yr ardal ar gyfer cyfranogwyr
annog mwy o bobl i fod yn Hyrwyddwyr Rhedeg Cymru
Faint o amser fydd yn ei gymryd?
Bydd y rôl hon, yn y rhan fwyaf o achosion yn cymryd rhwng 1-2 awr yr wythnos, yn bennaf yn y nos ac ar benwythnosau, gydag amser ychwanegol os bydd mynychu digwyddiadau penodol. Beth fyddwch chi’n ei gael allan ohono? Cewch foddhad o wybod eich bod yn ysbrydoli, cefnogi a chymell unigolion, na fyddai’n cyfranogi fel arfer, i gymryd rhan mewn chyfleoedd cerdded, loncian a rhedeg yn eich cymuned.
Byddwn yn rhoi i chi;
• Crys-t Arweinwyr Rhedeg Cymru
• Cefnogaeth gan dîm Rhedeg Cymru
• Mynediad i adnoddau
A oes diddordeb gennych? Os felly cysylltwch a ni…