Ydych chi’n cofnodi eich rhediadau? Ydi hi’n bwysig i gofnodi eich rhediadau; pellter, cyflymder, amser, y llwybr?
Dwi ddim yn meddwl bod ‘na ateb cywir neu anghywir i’r cwestiwn yma. Mae’n debygol bod yr ateb yn ddibynnol ar eich rhesymau dros redeg. Ydych chi’n rhedeg er mwyn cael dipyn bach o amser i chi’ch hyn? Neu fel fi, er mwyn gwneud eich “ffeilio meddyliol”? Neu, a ydych chi’n rhedeg er mwyn cael sialens? 5k, 10k neu hanner marathon (neu bellach o bosibl?!). Tydi’r ffaith eich bod chi heb gofnodi eich rhediad ddim yn meddwl eich bod chi heb fod allan, nac eich bod chi heb losgi’r calorïau ‘na!
Ond mae cadw cofnod o’ch rhediadau yn meddwl eich bod chi’n gallu cadw llygaid ar eich perfformiad, sy’n gallu bod yn beth da. Hynny yw, os ydych chi’n rhedeg, ac yn rhedeg yn aml ac yn recordio’r amseroedd hynny o wythnos i wythnos, yna does dim dwywaith amdani- mi welwch eich amseroedd yn gwella, mi welwch y pellteroedd yn ymestyn a’ch mi gewch hwb o weld y ‘pace’ yn cyflymu! Os nag ydych chi’n cofnodi eich rhediadau, yna mi fydd hi’n anoddach i chi wybod hyn i gyd. Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn cryfhau; yn brifo llai, yn gallu rhedeg i ben yr allt ‘na ble oedd rhaid cerdded i fyny yn flaenorol. OND heb gofnodi, sut ydych chi’n hollol siŵr?
Yn y blog yma, dwi am redeg (no pun intended!) trwy ‘chydig o wahanol ffyrdd o gofnodi eich rhediadau, a pa wybodaeth syml, ond defnyddiol mae’n bosib darganfod o’r wybodaeth. Wwwww – a chyn i mi anghofio – MAPIAU! A’u pwysigrwydd!
Y ffordd symlaf i gofnodi eich rhediadau ydi cadw llygaid ar yr amser wrth adael ac wrth ddŵad yn ôl – gydag oriawr syml o ryw fath; wedyn gallwch gofnodi’r amser mewn dyddiadur rhedeg neu ar ddarn o bapur. I fod yn onest, hyd yn oed os nag ydych chi’n gwybod pa mor bell yr ydych yn rhedeg, os ydych chi’n rhedeg yr un llwybr tro ar ôl tro ac yn cymryd llai o amser i’w gyflawni, yna da chi’n gwybod eich bod chi’n gwella! Ond os ydych chi’n debyg i fi, yna byddwch chi’n diflasu ar redeg yr un ffordd tro ar ôl tro, a byddwch chi’n ysu i redeg llwybrau/ffyrdd gwahanol. Ac os ydych chi’n newid yn aml, yna sut ydych chi’n mynd i wybod pa mor bell yr ydy’ch i’n rhedeg?
Wel, peidiwch â phoeni, oherwydd dyma le mae technoleg yn help! Cyn cychwyn trafod technoleg, mae’n rhaid i mi gyfaddef – dwi’n geek enfawr! Dwi ‘di gwirioni efo teclynnau, technoleg, ffonau symudol, cyfrifiaduron ayyb! Ac yn ffodus i mi, dwi’n gallu cyfuno’r obsesiwn yma hefo rhedeg! Dwi’n gallu strapio fy ffon i’m mraich, ac yn gallu defnyddio’r GPS I ddilyn fi ble bynnag dwi’n mynd- a dwi wrth fy modd!
Felly, os ydych chi hefo ffon ‘clyfar’ sydd yn rhedeg Android, iOS neu Windows, yna mae’r opsiynau’n ddiddiwedd! Mae ‘na apiau iechyd a ffitrwydd sy’n cofnodi eich rhediadau ac yn rhoi adborth i chi wrth i chi rhedeg. Dwi yn defnyddio Nike+, yn bennaf oherwydd fy mod i wedi bod yn defnyddio Nike+ ers tua 7 mlynedd – a ‘da ni gyd yn ‘creatures of habbit! Ond y rheswm pennaf yw; dyna ble mae fy holl wybodaeth – fy hanes rhedeg fel petai wedi ei storio.
Wrth sgwennu’r blog yma, dwi wedi darganfod bod y nifer apiau sydd ar gael wedi dyblu os nad treblu ers imi gychwyn… ond dydw’i ddim am fynd trwy’r da na’r drwg – mae yna ddegau o wefannau sydd wedi gwneud hyn yn barod! Dwi ond eisiau rhoi syniad i chi o beth dwi’n gwneud a’r buddion o gofnodi amser y ddigidol.
Pan ddechreuais redeg, prynais strap i mi gael strapio ffon i’m mraich. Ar y ffon yn barod oedd yr ap priodol oni am ei ddefnyddio a nes i jest i hitio’r botwm “GO” wrth gychwyn, a hitio’r botwm “GORFFEN” wrth orffen. Syml de?! Yn ystod y rhediad, roedd llais mecanyddol yr ap yn gadael mi wybod am y rhediad (yr amser, y pellter fy nghyflymder) bob milltir yr oeddwn yn cymryd ac roeddwn yn hooked!
Ac ar ddiwedd y rhediad roedd fy hoff ap yn y byd yn gadael mi wybod mod i wedi cyflawni “5 milltir mewn amser o 50 munud, 50 eiliad ar gyflymder o 10 munud, 10 eiliad y filltir yr awr”, ac os ydych chi’n lwcus, bydd rhyw Americanes yn eich llongyfarch chi ar eich rhediad cyflymaf, hiraf neu eich milltir cyflymaf! Mae fel cael Hyfforddwr Personol yn rhad ac am ddim!!
Ac un tro, ar ol imi gofnodi fy milltir cyflymaf – erioed, ges I Paula Radcliffe yn fy llongyfarch… ac o’n i’n fodlon iawn efo hynny – y pethau bach sy’n plesio ‘de!!
Byddai wedyn yn llwytho fy amser i systemau’r ap, ac oherwydd hynny mai’n bosib adolygu eich rhediad, edrych ar y map (os ydi GPS wedi gweithio), a gweld bel yr oeddech fwy araf neu gyflym… a llawer mwy wrth gwrs. Mae fy hoff fap (ac oes ma gen i hoff fap! Trist de!) isod:
Mae’n dangos fy mod di rhedeg allan i’r môr – gwneud fi edrych fel tipyn o foi! Ond I fod yn onest rhedeg ar y traeth wnes i tra bod y llanw allan Ond ma’ redeg ar dywod yn anodd cofiwch! So mi oni’n dipyn o foi – plys nes i wlychu fy nhraed ‘fyd!
Erbyn hyn dwi di symud ymlaen o wisgo ffon ar fy mraich, a dwi di wario llond sach o arian ar Tom-tom Multisport Cardio (mae dyfeisiadau eraill ar gael wrth gwrs!) – a dwi wrth fy modd!
Er nad oedd gwisgo’r ffon ar fy mraich erioed wedi achosi unrhyw fath o anhawster i mi, mae cael y Tom-tom ‘ma ar fy ngarddwn wedi gwneud gwisgo’r ffon deimlo fel gwisgo bricsen ar fy mraich. Rŵan, wrth wisgo’r oriawr, dwi’n cychwyn y rhediad wrth daro cwpl o fotymau, disgwyl i GPS cychwyn (mae’n cymryd munud, ac yn rhoi caniad bach pan mae’n barod i fynd) a dwi off!
Gyda’r oriawr, dydw i ddim yn cael unrhyw fath o adborth wrth redeg fel yr oeddwn gyda’r ffon, dim ond cip olwg sydyn ar fy ngarddwrn sydd angen a dwi’n gwybod bob dim dwi angen gwybod. Yn ystod y rhediad mae’r oriawr yn cyflwyno gwybodaeth sylfaenol i mi (amser, pellter, cyflymder), ond ar ôl llwytho’r rhediad i fy ffon symudol; dyma le mae’r wybodaeth yn dechrau canu! Dwi’n cael map, manylion pob milltir dwi di redeg, manylion o fy milltir cyflymaf ac arafaf, fy uchder, faint dwi ‘di dringo, a churiadau calon. Digon o ‘ystadegau i geek fel f. Wrth gwrs, mae’n hawdd cael eich llethu gan yr holl ystadegau, ond os ydych chi’n canolbwyntio ar y rhai pwysicaf, mae’n bosib dysgu pethau diddorol amdanoch chi’n hun. Ydych chi’n rhedeg yn well ben bore yntau gyda’r nos? Ydych chi’n rhedeg digon o elltydd (da ni gyd yn casáu elltydd, ond mae angen paratoi ar eu cyfer nhw; yng Nghymru yda ni, ar ddiwedd y dydd a does dim eu hosgoi!)? Nes I sylweddoli yn ddiweddar fy mod i ond yn dringo 70 troedfedd yn ystod fy 10km rheolaidd! Dwi’n siŵr bod yna ddim llawer o lefydd yng Nghymru lle mae’n bosib rhedeg 10km a dim ond dringo 70 troedfedd! Ond, nes i wedyn wneud penderfyniad a dewis fy mod i’n mynd i daclo mwy o elltydd wrth redeg o hyn ymlaen (dwi wedi ymuno a grŵp bach o “trail runners” yn ddiweddar, ac mewn rhediad yn y misoedd diwethaf, roedd yna dros 1100 troedfedd o elltydd – ond mwy am hynny yn fy mlog nesa!).
Felly, dyna fy siwrne i o gofnodi rhediadau. Dydw i ddim yn dweud ei fod mai hyn yw’r ffordd berffaith, ond mae’n gweithio imi. A dyna sy’n bwysig – darganfod rhywbeth sy’n gweithio i chi ac yn eich gwneud yn hapus!