A hithau yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, cawsom sgwrs gydag elusen Mind, nid yn unig ynglŷn â’r ffaith bod rhedeg yn gwneud lles sylweddol i’ch iechyd meddwl, ond i drafod manteision cymdeithasol ac emosiynol rhoi un droed o flaen y llall hefyd.
Manteision Iechyd Meddwl cysylltiedig ag ymarfer corff
• Eich gwneud yn hapusach a lleihau pryder. Pan fyddwch yn gwneud ymarfer corff, mae cemegau yn eich ymennydd yn newid am fod endorffinau’n n cael eu rhyddhau (hormonau sy’n gwneud ichi deimlo’n dda), a all dawelu pryder a chodi eich calon.
• Lleihau straen. Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo llai o straen a thensiwn wrth i’ch corff allu rheoli lefelau cortisol yn well.
• Meddwl yn fwy clir. Mae rhai pobl yn teimlo bod ymarfer corff yn helpu i dawelu’r llif o feddyliau diddiwedd. Wrth i’ch corff flino, mae eich meddwl yn blino, gan eich gadael yn fwy digynnwrf a’ch meddwl yn fwy clir.
• Teimlo’n ddigynnwrf. Gall rhoi’r amser i wneud ymarfer corff ynddo’i hun roi cyfle i chi feddwl am bethau a helpu i dawelu eich meddwl.
• Mwy o hunan barch. Pan fyddwch yn dechrau teimlo’n fwy ffit a’ch corff yn teimlo’n well, gall fod yn hwb enfawr i’ch hunan-barch. Gall yr ymdeimlad o gyflawniad a geir o ddysgu sgiliau newydd a chyrraedd targedau hefyd wella eich agwedd tuag atoch chi eich hun a chodi eich calon. Mae gwell hunan-barch hefyd yn cael effaith amddiffynnol sy’n golygu eich bod yn fwy bodlon gyda’ch bywyd ac yn llai tebygol o deimlo straen.
• Llai o berygl o iselder. Mae tystiolaeth dda bod dynion a menywod mwy actif, o bob oed, yn llai tueddol o ddioddef o iselder. Yn wir, mae un astudiaeth wedi canfod bod mynd o wneud dim ymarfer corff i wneud ymarfer corff o leiaf dair gwaith yr wythnos yn lleihau eich perygl o iselder o bron i 20%.
Manteision Cymdeithasol ac emosiynol
• Gwneud ffrindiau ac ymwneud â phobl. Mae bod yng nghwmni eraill yn dda i’n hiechyd meddwl ac i’n rhwydweithiau cymdeithasol – ac mae modd cynyddu manteision ymarfer corff i’r eithaf drwy wneud ymarfer corff yng nghwmni eraill. Mae’n ddigon posibl y byddwch yn gweld y manteision cymdeithasol, yr un mor bwysig â’r manteision corfforol.
• Cael hwyl. Mae llawer ohonom yn mwynhau bod yn actif am ei fod yn ddifyr. Dengys ymchwil bod cysylltiad rhwng yr hyn yr ydym ni’n mwynhau ei wneud a gwelliannau i’n lles cyffredinol. Rydych chi hefyd yn fwy tebygol o ddal ati i redeg os ydych chi’n mwynhau eich hun.
• Herio stigma a gwahaniaethu. Mae rhai pobl yn teimlo bod ymuno â rhaglen chwaraeon h.y. Couch to 5K yn helpu i leihau’r stigma cysylltiedig â’u problem iechyd meddwl. Gall bod yn rhan o brosiectau lleol gyda phobl eraill sy’n rhannu diddordebau cyffredin fod yn ffordd ardderchog o chwalu rhwystrau a herio gwahaniaethu.
‘Dydyn ni ddim yn honni bod rhedeg yn hawdd, ond mae’r manteision yn amlwg ac yn anodd iawn i’w hanwybyddu.
Rhannwch eich profiad o redeg gyda ni a’r manteision i’ch iechyd – cysylltwch ar Twitter, Facebook ac Instagram. Beth am ei siapio hi, gyda’n gilydd! #rwynrhedeg