Mae parkrun yn trefnu sesiynau rhedeg 5km am ddim, sy’n cael eu hamseru, bob wythnos o gwmpas y byd.
Yng Nghymru, mae 20 parkrun i oedolion a 6 parkrun i blant a phobl ifanc, ac mae pob un or digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal mewn lleoliadau godidog yng Nghymru sy’n ddiogel (dim ceir) ac yn hygyrch i bawb. Mae parkrun yn rhoi’r cyfle i bawb gymryd rhan, o’r rheini sy’n rhedeg am y tro cyntaf i athletwyr Olympaidd, ac o bobl iau i redwyr mwy profiadol; un tîm mawr yw parkrun.
Felly, be gwell nag ymuno a parkrun lleol i chi a chymryd rhan
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sefydlu parkrun yn eich cymuned chi? Be am lawrlwytho ein canllawiau; isod
Canllawiau ar gyfer sefydlu parkrun
