Mae Mai 1af yn nodi lansiad swyddogol Mis Cerdded Cenedlaethol, a chredwn mai hwn yw’r cyfle perffaith i annog pobl Cymru i wella eu hiechyd yn yr awyr iach.
Fel mae ein henw’n awgrymu (Rhedeg Cymru), ein nod ni yw ysgogi a chefnogi pob oedolion yng Nghymru i redeg. Ond, gwerthfawrogwn fod yn rhaid dechrau yn rhywle, a dyna pam trwy gydol mis Mai y byddwn ninnau hefyd yn cefnogi’r ymgyrch i gerdded.
Yn ogystal â chymell chi i redeg yn gymdeithasol, drwy fis Mai byddwn yn tynnu eich sylw at ddigwyddiadau cerdded lleol y gallwch chi, eich ffrindiau a / neu deulu cymryd rhan, ynghyd a chynnig awgrymiadau ar sut i wneud cerdded yn rhan barhaol o’ch trefn ddyddiol. Byddem wrth ein bodd os gallwch chi gymryd rhan yn yr ymgyrch hwn gyda ni.
Felly, trwy gyfryngau cymdeithasol mae modd i chi rannu eich teithiau/anturiaethau cerdded gyda ni, fe allwch fanteisio ar y cyfle i son am eich hoff lwybrau cerdded (neu redeg) a chynnig unrhyw gyngor i’ch cyd-gerddwyr am fanteision cerdded fel ffordd o fyw bywyd iach a hapus.
I ymuno â’r sgwrs ar Trydar (@runwales) ac Instagram (RhedegCymru) ddefnyddiwch yr hashnod #CerddedErMwynRhedeg #walktorun #rwynrhedeg #irunwales. Ac i’n dilyn ar Facebook, ‘Hoffwch’ ni ar facebook.com/IRunWales a gallwch rannu eich hanesion hefyd.
Mwynhewch!