Ar ddydd Sadwrn Mawrth 26ain, gwelsom 16,000 o redwyr yn ymlwybro ar hyd strydoedd Caerdydd yn ôl troed pencampwyr dygnwch y byd fel rhan o Bencampwriaethau Hanner Marathon Y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd.
Dechreuodd y dathliadau ar fore Iau, 24ain o Fawrth, pan agorwyd drysau ‘Expo Chwaraeon’ 1af y brifddinas i’r lluoedd. Cwmpasau’r Expo o arddangoswyr a siaradwyr a amrywiai o Paula Radcliff, Charlie Watson, Mo Farah ynghyd a blogiwr Rhedeg Cymru, Hannah Phillips.
Prif siaradwr yr Expo nos Iau oedd Paula Radcliffe, ac yn dilyn taith lafurus o Lundain i Gaerdydd cyn penwythnos Gŵyl y Banc, cyrhaeddodd Paula’r Expo a oedd dan ei sang a chefnogwyr awyddus. Fe roddodd Paula sylw i’r pwnc o fenywod a rhedeg, ynghyd a chynnig cyngor i’r gynulleidfa ar yr her o redeg Hanner Marathon.
Yn ogystal â’i chyflwyniad yn yr Expo, cyflwynodd Paula i grŵp bychain o gefnogwyr brwd yng Ngwesty’r Hilton, ble oedd rhai o gymuned Rhedeg Cymru yn bresennol. Cafwyd 10 o ferched lwcus y cyfle i gwrdd â Paula, ei holi am ei phrofiadau hi fel merch ym myd rhedeg, ynghyd a chael tynnu llunia gyda hi.
“Roedd y merched a ddaeth gyda ni i gyfarfod Paula wedi ei hysbrydoli, yn ei hedmygu yn fawr ac yn meddwl ei bod hi’n hyfryd iawn” Jess Morgan, prosiect Us Girls.
Ar y llwyfan nos Wener 25ain, oedd Haen Phillips. Siaradodd gyda’r gynulleidfa a rhannodd ei phrofiadu o sut gychwynnodd hi ar ei siwrne rhedeg a sut, pedair blynedd yn ddiweddarach, y mae rhedeg wedi trawsnewid ei bywyd. Hefyd darllenodd pennod o’i e-lyfr ‘No Run Intended’. I ddarllen mwy gan Hannah, ewch i dudalen Ein Hyrwyddwyr
Fe fu rhai aelodau o gymuded Rhedeg Cymru yn ffodus iawn o fod yn rhan o sesiwn ‘Mo Inspired’ ar fore Gwener y 25ain o Fawrth, ble fu Mo Farah yn cwrdd-a-chyfarch, cymryd cwestiynau gan blant ysgol leol, a siarad yn gyffredinol am ei fywyd fel pencampwr rhedeg dygnwch y byd.
Yn gyffredinol, roeddem wrth ein bodd gyda’r nifer ohonoch â ymwelodd â’n stondin yn ystod y digwyddiad 3-diwrnod i weld sut y gall Rhedeg Cymru eich cefnogi ac ysgogi wrth barhau a’ch rhedeg.
Os cawsoch i eich ysbrydoli gan y digwyddiad ac eisiau dechrau loncian neu redeg, neu os ydych eisoes wedi dechrau eich taith ac yn chwilio am gymorth i barhau, yna be am ymuno â channoedd eraill sydd wedi ymuno a chymuned Rhedeg Cymru, ac ymuno eich hunain heddiw.