Mae astudiaeth ddiweddaraf gan Brifysgol Caerdydd wedi datgelu’r anawsterau sy’n wynebu pobl sydd eisiau ymgymryd â rhedeg fel modd o ymarfer.
Gydag iechyd y genedl yn destun trafod chwyrn, bu i ymchwilwyr ac arbenigwyr clinigol o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol ymchwilio’r hyn sy’n ysgogi pobl i gychwyn rhedeg.
Roedd cyfranogwyr yr astudiaeth ymhlith 500 o redwyr newydd a gafwyd eu recriwtio ar gyfer Hanner Marathon y byd 2016, gan Run4Wales trefnydd y ras, gyda chefnogaeth y Brifysgol, a rhaglen rhedeg gymdeithasol newydd Athletau Cymr, Rhedeg Cymru. O ganlyniad fe gafodd y rhedwyr hyn fynediad am ddim i’r ras trwy gynllun yr IAAF ‘Athletics for a Better World’.
Canfu’r astudiaeth:
• Mai ymrwymiadau gwaith a chydbwysedd a bywyd personol, diogelwch wrth redeg ei hunan, a ffyrdd prysur fel prif rwystrau gan y cyfranogwyr.
• Dengys mai’r cymhelliant gorau i gychwyn rhedeg fel modd o ymarfer oedd yr ymdeimlad o iechyd a lles
• Defnyddia’i 8 allan o 10 appiau rhedeg i fonitro eu datblygiad
• Mae digwyddiadau mawr YN ysbrydoli pobl i fod yn egnïol ac i aros yn heini
• Mae’r manteision i gynnig ffioedd mynediad gostyngedig neu am ddim YN helpu i ddenu rhedwyr dibrofiad i ddigwyddiadau mawr.
• Roedd gan ferched bryderon gwahanol i dynion wrth ymgymryd ag ymarfer corff
• Nid yw rhedwyr newydd/dibrofiad yn awyddus nac yn cael eu denu i ymuno a chlybiau rhedeg ffurfiol.
Dywedodd Dr Liba Sheeran, arweinydd yr astudiaeth: “Rydym yn gwybod bod gweithgarwch corfforol yn dda i’n hiechyd ond yr her yw deall sut y gallwn ennyn newid parhaol yng ngweithgaredd corfforol ac ymddygiad y genedl.
“Er bod digwyddiadau mawr yn darparu’r cymhelliant a chyfle, nid yw’n glir a yw hynny’n ddigon i sicrhau newid hir dymor yn ymddygiad yr unigolyn ac yn sgil hynny newid eu patrymau ymarfer i rai mwy cyson.
Dengys mai’r prif rwystr i gychwyn ymarfer corff a’i wneud yn rheolaidd yw ymrwymiadau gwaith a’r cydbwysedd hynny a bywydau personol, a nodwyd gan oddeutu 8 allan o 10 o’r cyfranogwyr, gyda diogelwch, a fynegwyd gan bron i un rhan o dair o ferched a 15% o ddynion fel rhwystr arall, ynghyd a rhedeg ar hyd ffyrdd prysur (12 %).
Fe nododd dynion a merched bryderon gwanhaol am beidio â bod eisiau dechrau rhedeg, gyda menywod yn poeni am beidio â bod yn barod, ac yn bryderus o redeg o flaen torfeydd mawr, gyda dynion yn nodi mae methu a chyflawni eu targed oedd eu pryder mwyaf. O ganlyniad fe awgrymodd yr ymchwilwyr y byddai strategaethau sbesiffig, sy’n targedu dynion a menywod ar wahân i fod yn fwy egnïol, yn fwy effeithiol.
Er gwaethaf y rhwystrau hyn, rhoddwyd nifer o resymau cadarnhaol i gychwyn rhedeg, gan gynnwys ymdeimlad o les, ag adroddwyd gan 28% o’r cyfranogwyr, bod yn yr awyr agored (22%), a gwella eu hiechyd (20%).
Ond yn gadarnhaol iawn, fe adroddodd y mwyafrif helaeth o gyfranogwyr a gwblhaodd yr arolwg dilynol, chwe mis yn ddiweddarach, eu bod yn parhau i ymarfer.
Yn ôl Ali Abdi, rhedwr newydd a gymrodd ran yn yr ymchwil ac sydd ers hynny gyda chefnogaeth Rhedeg Cymru, wedi sefydlu grŵp rhedeg yn Grangetown, Caerdydd, fel rhan o brosiect ehangach gyda Phrifysgol Caerdydd, ” Mae rhedeg yn hwyl, yn gymdeithasol a ffordd gymharol rad o gadw’n heini. Canfu’r astudiaeth nad oedd rhedwyr dibrofiad yn cael eu denu i glybiau rhedeg traddodiadol dyna pam mae Run Grangetown yn wahanol, oherwydd ein bod yn anelu’n benodol at yr unigolion hynny sy’n newydd i redeg ac yn rhoi pwyslais mawr ar fwynhad.
“Byddwn i’n argymell ymuno neu sefydlu grŵp rhedeg anffurfiol fel ein un ni gan ei fod yn eich annog i redeg yn rheolaidd, yn eich galluogi i hyfforddi gyda chyd ddechreuwyr, a chael lot fawr o hwyl yn y broses.”
Dywedodd Sioned Jones, Rheolwr Rhaglen Run Cymru, “Mae Rhedeg Cymru yn croesawu’r darn hwn o waith ymchwil a bydd yn ei ddefnyddio i barhau i gefnogi oedolion yng Nghymru i redeg. Yn ddiweddar rydym wedi datblygu llawlyfr ‘Arweiniad i Sefydlu a Threfnu Grwpiau Rhedeg’ i gefnogi pobl i sefydlu eu grŵp rhedeg cymdeithasol eu hunain. Mae gennym eisoes dros 70 o grwpiau o bob lefel a gallu wedi eu lleoli ledled Cymru, sy’n golygu nad oes rhaid i bobl fynd i rai pen ei hun. Ein darn gwaith nesaf yw cefnogi rhedeg yn y gweithle fydd, gobeithio, yn cynorthwyo a herio’r rhwystr a nodwyd gan y cyfranogwyr hyn yn sgil eu hymrwymiad gwaith/bywyd”
Dywedodd Matt Newman, Prif Weithredwr Athletau Cymru a Run 4 Wales: “Mae Athletau Cymru wedi datblygu rhaglen rhedeg gymdeithasol Rhedeg Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda’r nod o ysbrydoli, annog a chefnogi pob oedolyn yng Nghymru i redeg, a bydd yr astudiaeth hon yn ein galluogi i barhau i herio’r rhwystrau sy’n atal rhedwyr newydd rhag cymryd rhan.
“Byddwn yn parhau i ddarparu mentrau di-dâl a gostyngiadau mynediad a fydd yn ehangu cyfleodd i’n digwyddiadau gan gynorthwyo fwy o bobl i wella eu ffitrwydd a lles.”