15.01.2016
Ddydd Sadwrn 26 Mawrth, cynhelir Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd yr IAAF/Prifysgol Caerdydd ar strydoedd Caerdydd ac mae’n argoeli i fod yn un o’r digwyddiadau dygnwch mwyaf gafaelgar a llawn bri yn y DU ers blynyddoedd.
Cewch redeg yn yr un ras ac ar yr un llwybr â rhai o athletwyr gorau’r byd ac ennill eich medal pencampwriaeth y byd eich hun.
Bydd rhai o redwyr gorau’r byd yn troedio strydoedd Caerdydd fis Mawrth nesaf yn ras elît yr IAAF sy’n argoeli i fod yn gystadleuol iawn, ac a fydd yn wledd o adloniant a chyffro i wylwyr a rhedwyr fel ei gilydd.
Mae’r digwyddiad hwn, sy’n agored i bawb, yn gyfle perffaith i redwyr o bob oedran a phob gallu i ddilyn ôl troed pencampwyr mewn ras Pencampwriaeth y Byd.
Gan mai nifer cyfyngedig o 25,000 o lefydd sydd ar gael ar gyfer y ras dorfol, mae cystadleuaeth frwd am gyfle i redeg ar hyd cwrs pencampwriaeth o’r radd flaenaf ochr yn ochr â rhedwyr byd-enwog.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i http://www.cardiff2016.co.uk/