Mae Wythnos Iechyd Meddwl eleni yn canolbwyntio ar ein perthynas ag eraill.
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn credu bod angen mwy o bwyslais ar ansawdd ein perthynas gydag eraill ac eisiau amlygu effaith bwysig hyn ar ein hiechyd a’n lles. Dywedir ei fod yr un mor bwysig â ffactorau mwy cyfarwydd megis bwyta’n iach ac ymarfer corff. Allwn ni ddim ffynnu fel unigolion a chymunedau heb berthynas dda gydag eraill.
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn gofyn i bawb ohonom ni addo gwneud y canlynol: asesu faint o amser yr ydym ni’n ei roi i feithrin a chynnal cysylltiadau da, a gofyn a oes modd inni fuddsoddi mwy drwy fod yn bresennol gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr a gwrando arnynt.
Fel y crybwyllwyd uchod – mae pawb yn ymwybodol bod symud mwy yn gwella ein hiechyd a’n lles a pha ffordd haws o wneud hynny na cherdded, loncian neu redeg.
Cymuned Rhedeg Cymru yw’r lle perffaith i chi gychwyn perthynas gyda’r gymuned redeg yng Nghymru, a mynd ar eich pen i’r afael â’ch iechyd meddwl! Mae cymryd y cam cyntaf yn hawdd, dewiswch y ffordd orau i chi;
– Dewch o hyd i grŵp rhedeg yn eich ardal a rhedwch gyda phobl o’r un anian mewn amgylchedd diogel, cyfeillgar a difyr.
– Rhedwch yn y Gweithle – nid rhedeg yn y swyddfa o reidrwydd, ond beth am ddod â grŵp o gydweithwyr at ei gilydd i redeg yn ystod amser cinio / ar ôl oriau gwaith?
– Cofrestrwch ar gyfer eich parkrun lleol a rhedwch am ddim ar fore Sadwrn.
– Neu cymerwch gam bychan drwy Ymuno â chymuned Rhedeg Cymru drwy lenwi ffurflen fer. Byddwch yn derbyn cylchlythyr am ddim sy’n cynnwys y newyddion diweddaraf am bopeth sy’n gysylltiedig â Rhedeg Cymru, ac sy’n ysgogiad i gychwyn arni.
Cewch hefyd ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol;
Twitter, Facebook ac Instagram.
I gael mwy o wybodaeth am wythnos Iechyd Meddwl a mwy am waith y Sefydliad Iechyd Meddwl, ewch i ymweld â’u gwefan https://www.mentalhealth.org.uk