Run Wales

Ydi Siocled yn Fuddiol i chi?

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Siocled, tybiwn pa mor dda yw siocled i ni ac i’n rhedeg…

Felly, dyma ni’n troi tuag at ein cyfaill, Google (mae ‘na beiriannau chwilio eraill i’w gael wrth gwrs) a dod o hyd i lith o erthyglau, astudiaethau, ac opiniwn am fuddion siocled a rhedeg. Ond gan nad ni yw’r arbenigwyr yn y maes hwn, rhestrwn isod gasgliad byr o erthyglau diddorol sy’n trafod y manteision, er mwyn i chi eu darllen penderfynu beth yw eich safiad!

Ond deuthum ar draws un erthygl ddiddorol iawn, sy’n cyhoeddi mai llaeth siocled yw diod Mo Farah wedi ras neu sesiwn hyffordd caled – felly, os yw’n ddigon da I Mo mae’n ddigon da i ni, siawns?!

Ond beth yw eich bran chi?

Runners World – Dark Chocolate is good for your heart and your workout

Women’s Running – 5 Benefits of Dark Chocolate

The Guardian – The Power of Chocolate Milk