Mae grwpiau rhedeg ychydig yn wahanol eu strwythur i’r Clybiau Rhedeg traddodiadol sy’n gysylltiedig ag Athletau Cymru. Er bod clybiau rhedeg yn cynnig cyfleoedd ardderchog i nifer o redwyr yng Nghymru, mae’r clybiau’n ffurfiol iawn eu strwythur ac, o ganlyniad, nid ydynt yn addas i bob rhedwr.
Mae Rhedeg Cymru, rhaglen a arweinir gan Athletau Cymru, yn cefnogi sefydliad ffordd fwy hyblyg, anffurfiol a chyfeillgar o ddarparu cyfleoedd rhedeg diogel i bobl Cymru.
Arweinir grwpiau Rhedeg Cymru gan arweinwyr cymwysedig a hyfforddir ac a yswirir gan Athletau Cymru, ac ar hyn o bryd rydym yn cefnogi mwy na 50 o grwpiau rhedeg ledled Cymru.
Gall ffurf a maint grwpiau rhedeg amrywio’n fawr. Nid oes rheolau ynglŷn â nifer y bobl a all fod yn rhan o grŵp rhedeg a gallai’r grŵp fod yn grŵp rhedeg o’r gweithle, grŵp rhedeg gyda choets baban, neu fod yn ddim ond grŵp o ffrindiau sy’n mwynhau rhedeg gyda’i gilydd.
Dyma fwy o wybodaeth am rai o grwpiau rhedeg gwych Rhedeg Cymru: