Run Wales

Alfie’s Army 2017

Mae gennym 20 o leoedd ar gael i bobl ifanc rhwng 18 oed a 21 i fod yn rhan o glwb 100 a Byddin Alfie eleni.
Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am y dechreuwyr neu redwyr nofis i gofrestru mewn timau o 5 – (4 tîm) i gynrychioli Rhedeg Cymru ar ddydd y ras. Trwy gydol eu taith byddent yn derbyn rhaglen hyfforddiant a chefnogaeth lawn gennym ni, y timau eraill fydd yn rhan o glwb 100 a Byddin Alfie. Yn ogystal, mae’r 20 bydd yn cael eu dewis i gynrychioli Rhedeg Cymru yn derbyn ‘goody bag’ fydd yn cynnwys crysau-t.

Mae hwn yn gyfle gwych i ni i ledaenu’r gair am y rhaglen i gynulleidfa iau!

Y GYFRES DELEDU
Fel rhan o’r profiad, bydd DAU o’r ugain o dimau (o 5) yn cael ei ffilmio ar gyfer y gyfres deledu BBC Cymru. Ni fydd y 18 tîm arall yn ymddangos ar brif gorff y rhaglen deledu, ond byddent yn cael sylw ar ddiwrnod y ras ei hun. Ni fydd y 4 tîm (fydd yn rhan o’r 18 tîm) yn rhedeg i Redeg Cymru yn ymddangos ar y rhaglen deledu ychwaith.

Y CYMORTH
Mae hunan-gymhelliant yn allweddol i gwblhau’r her hon. Dyma pam y mae Clwb 100 yn cynnwys timau, ac nid unigolion – fel y byddent yn medru cefnogi ei gilydd. Bydd Alfie, James a ninnau yn medru cynnig y gefnogaeth sydd eu hangen i ymgymryd â’r her, er dim ond y person ifanc eu hun fydd yn medru hyfforddi eu cyrff a’u meddwl i gwblhau’r sialens.
Er na fydd 18 o dimau y Clwb 100 yn ymddangos ar brif gorff y rhaglen deledu, byddant yn derbyn:
• Lle am ddim yn y ras
• Cynllun hyfforddi cam-wrth-gam 16 wythnos, a ddatblygwyd gan Alfie a James Thie
• Cyngor ar faeth a hydradiad
• Diweddariadau ac awgrymiadau hyfforddi
• Mynediad i grŵp 100 ar Facebook lle bydd modd i’r bobl ifanc bostio cwestiynau i’r arbenigwyr a threfnwyr y ras, ynghyd a rhannu eu cynnydd gyda gweddill y Clwb.
• Cyfle i gyfarfod Alfie mewn digwyddiad Lansiad Swyddogol, rhedeg ras hyfforddiant 10C, ar noswyl cyn y marathon ac ar ddiwrnod y ras ei hun.
• negeseuon fideo gan Alfie a James i’w hysgogi yn ystod y cyfnod hyfforddi.

GARETH ‘ALFIE’ THOMAS
Er bod Gareth wedi datblygu rhaglen hyfforddi gyda James Thie a Rhedeg Cymru, ni fyddant yno yn bersonol i gefnogi’r timau drwy gydol yr amser. Mi fydd, fodd bynnag, cyfle i’r timau gyfarfod, sgwrsio a rhyngweithio gydag ef ar yr adegau canlynol:
• Diwrnod lansiad swyddogol
• Ras/sesiwn hyfforddiant 10C (tua 4 wythnos cyn yr hanner marathon)
• Digwyddiad noswyl cyn yr hanner marathon ac yn ystod y ras eu hun.
• Bydd tîm Rhedeg Cymru hefyd yn cael cefnogaeth gan Hysgogwyr Rhedeg bydd yn y gymuned i gynorthwyo’r timau.

GWNEUD CAIS
Rydym yn gofyn i’r timau i wneud cais ar lein drwy’r linc isod. Gofynnwn fod un aelod o’r tîm (y Capten mwy na thebyg) yn llenwi’r ffurflen gais, gyda’u manylion a manylion am yr aelodau eraill o’u tîm.
I FOD UN O’R 4 TIMAU I GYNRYCHIOLI RHEDEG CYMRU GOFYNNWN I’R BOBL IFANC DICIO’R BLWCH AR Y FFURFLEN GAIS SYDD YN DWEUD ‘Os yn llwyddiannus, a fyddech yn barod i gofrestru eich grŵp gyda Rhedeg Cymru’. Mae ticio hwn yn hanfodol os yw’r tîm eisiau cynrychioli Rhedeg Cymru.

Cyswllt i wneud cais: http://www.cardiffhalfmarathon.co.uk/100club

Os ydych chi neu’r bobl ifanc angen unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach, mae croeso i chi e-bostio mi

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 22ain Fai