Run Wales

#RunWithUs Merthyr

Cwrddais ag Adam Jones mewn digwyddiad Rhedeg Cymru nol ym mis Chwefror 2016, ac ar ôl hynny fe wahodd fi i’w helpu gyda sesiynau rhedeg deg wythnos o 0 i 10k. Yn dilyn y cydweithio yma, sylweddolom fod ‘na gyfle yma i gychwyn rhywbeth yn Merthyr. Fi y rhedwr cymdeithasol, ac Adam y Hyfforddwr Personol!

Gyda chefnogaeth Rhedeg Cymru, fe ddechreuom rhedeg ar nosweithiau Iau. Ar y nosweithiau rhedeg cymdeithasol yma, yr oll yr oeddem yn neud oedd cwrdd a mynd yn gytûn am rediad cymdeithasol!
Ond er mwyn uwch sgilio arweinwyr ar gyfer ein grŵp rhedeg, rhaid oedd edrych am arian.

Unwaith eto, gyda chymorth Rhedeg Cymru a Actif Merthyr, fe lwyddom i agor cyfrif banc ar gyfer y grŵp. Roedd yn broses gymharol syml mewn gwirionedd, ac o ganlyniad mae wedi ein galluogi i wneud cais am cronfa gist gymunedol er mwyn gwella sgiliau rhai o’r aelodau fel Arweinwyr Rhedeg.

O ganlyniad i’r grant, rhoddwyd 10 aelod o’r grŵp rhedeg ar gwrs Arweinydd mewn Rhedeg ar gyfer Ffitrwydd. Yn dilyn yr hyfforddiant fe gynhaliwyd lansiad #RunWithUs gyda hyd ar 50 o unigolion yn mynychu a dangos diddordeb!

Yn y lansiad, cyflwynwyd y syniad i aelodau posibl a fe wahoddwyd pob un ohonynt i ymuno â’r sesiwn gyntaf swyddogol y dydd Iau canlynol. Syniad y lansiad oedd i dawelu meddyliau pobl, ac i esbonio’r syniad o grŵp rhedeg gymdeithasol – a’i nod o fod yn fan diogel, cyfeillgar, cynorthwyol ac hwyl i bobl rhedeg!

Dilynwyd #RunWithUs y modiwl a ddefnyddiwyd Rhedeg Cymru i gefnogi grŵp rhedeg cymdeithasol i ferched yn Llandrindod, sef Just Move.

Rydym yn cynnig pedwar grŵp: Grŵp cerdded, grŵp gerdded i redeg, grŵp canolradd a grŵp blaengar.
Yn y sesiwn gyntaf cawsom 36 o bobl yn mynychu a buom i redeg ym Mharc Cyfartha. Ond ers hynny mae’r nifer sydd sy’n mynychu yn cynyddu wythnosol! Yn ein sesiwn ddiwethaf, ein 9fed wythnos, cawsom 127 o bobl! Golygfa wych!!

Felly pam mae pobl yn #RunWithUs?

“Wel, rydym ni’n credu ei fod oherwydd ein bod yn cynnig cyfle diogel, cefnogol a chyfeillgar i bobl fod yn egnïol bobl. Mae gennym digwyddiadau cymdeithasol, ac nid yn unig ydym ni nawr yn grŵp rhedeg, rydym hefyd yn ffrindiau!” Hannah Phillips

O ganlyniad, rydym yn nawr â grwpiau #RunWithUs yn Nhreharris ar nosweithiau Llun, Rhymni ar nosweithiau Frecher a grŵp newydd yn dechrau ym Mhorth ar y 10fed Tachwedd.

Ymunwch â ni – RunWithUs!